[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd yw Rhoslan ( ynganiad ). Saif ar y ffordd B4411, rhwng Bryncir a thref Cricieth. Llifa Afon Dwyfor i'r dwyrain o'r pentref, ac Afon Dwyfach i'r gorllewin. Cyfeiria R. Williams Parry ar hyn yn ei linellau "Hen, hen yw murmur llawr man / Sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan".

Rhoslan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.944416°N 4.261106°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Capel y Beirdd, Rhoslan

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cromlech Rhoslan o'r gorllewin

Hanes a hynafiaethau

golygu

Mae cromlech ychydig i'r dwyrain o'r pentref, ac mae'r Lôn Goed gerllaw.

Yma hefyd mae Capel y Beirdd, a sefydlwyd yn 1822[3] ac a gysylltir â dau o feirdd clasurol Eifionydd yn hanner cyntaf y 19g, sef Robert ap Gwilym Ddu o'r Betws Fawr yn Llanystumdwy a'i ddisgybl barddol Dewi Wyn o Eifion, awdur y gyfrol Blodau Arfon.

Pobl o Roslan

golygu

Cyfeiriadau

golygu