[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Penrhos, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Plwyf eglwysig a phentref bychan yng Ngwynedd yw Penrhos ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar benrhyn Llŷn ychydig i'r gorllewin o dref Pwllheli ar bwys y briffordd A499. Mae'n rhan o gymuned Llannor.

Penrhos
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbedrog, Llannor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.875°N 4.467°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH345342 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Penrhos.

Mae pentref Penrhos yn fychan iawn - dim ond yr eglwys ac ychydig o dai a geir yno. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Llannor.

Llifa afon Penrhos trwy'r plwyf a heibio i'r pentref i aberu yn harbwr Pwllheli.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yn yr Oesoedd Canol roedd Penrhos yn rhan o gwmwd Cafflogion yng nghantref Llŷn. Un o ganolfannau'r cwmwd oedd plasdy Penyberth a ddaeth yn enwog mewn canlyniad i losgi'r ysgol bomio, a adeiladwyd yno gan lywodraeth Prydain ganol y 1930au, gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams yn 1936 (gweler Tân yn Llŷn).

Bu Penrhos yn blwyf sifil yn ogystal ond cafodd ei uno gyda Llannor pan ddiwygwyd llywodraeth leol yn Sir Gaernarfon yn 1934.

Pobl o Benrhos

golygu

Roedd y gwleidydd Llafur blaenllaw Goronwy Roberts (1913-1981) yn enedigol o Benrhos.

Cyfeiriadau

golygu