[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Llithfaen

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Pistyll, Gwynedd, Cymru, yw Llithfaen[1][2] ( ynganiad ). Saif ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn ger llechweddau deheuol Yr Eifl ar ffordd y B4417 o Lanaelhaearn i Nefyn.

Llithfaen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPistyll Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9606°N 4.4489°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH355431 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli gwenithfaen ar yr Eifl yn y 19g. Adeiladwyd llawer o dai newydd ac mae cyfrifiad 1881 yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o Benmaenmawr a chyn belled â'r Alban. Yn hanner cyntaf y 19g, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn Nant Gwrtheyrn, arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri grug ar lethrau Tre'r Ceiri a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad Pwllheli am 6 cheiniog y baich.[3]

Mae yno siop sydd yn gael ei redeg gan y gymuned a Thafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.

O bentref Llithfaen mae modd cyrraedd Nant Gwrtheyrn ar hyd lôn sy'n arwain tua'r gogledd i gyfeiriad y môr. Yma y sefydlwyd y Ganolfan Iaith Genedlaethol. Ar un o dri chopa'r Eifl mae bryngaer enwog Tre'r Ceiri.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[5]

Y bythynod yn y Nant

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn, gol. D. T. Davies (Pwllheli, 1910)
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol

golygu