[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Tom Daley

Oddi ar Wicipedia
Tom Daley
Tom Daley yn 2012
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnThomas Robert Daley[1]
Ganwyd (1994-05-21) 21 Mai 1994 (30 oed)
Plymouth, Dyfnaint
Taldra177 cmetr (5 tr 10 mod)[2]
Pwysau74 kg (11 st 9 lb; 163 lb)[2]
Camp
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Baner Lloegr Lloegr
Camp10 m, 10 m synchro, 3 m
ClwbClwp Plymio Plymouth / Canolfan Perfformiad Uchel Llundain[3]
PartnerDustin Lance Black (p. 2017)[4]
Hyfforddwr/aigJane Figueredo

Plymiwr a phersonoliaeth deledu Seisnig yw Thomas Robert "Tom" Daley (ganwyd 21 Mai 1994)[2]. Mae Daley yn arbenigo yn y gamp bwrdd 10 metr ac roedd yn Bencampwr y Byd ym mhencampwriaethau FINA 2009 yn yr ornest unigol pan oedd yn 15 mlwydd oed. Cychwynnodd blymio yn 7 mlwydd oed ac mae'n aelod o Glwb Plymio Plymouth. Mae wedi gwneud argraff mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ers oedd yn 9 oed. Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 lle'r oedd y cystadleuwr ieuengaf o wledydd Prydain, y cystadleuwr ieuengaf o unrhyw wlad tu allan i gystadlaethau nofio, a'r ieuengaf i gymryd rhan mewn rownd derfynol.[5] Yn 2009, cyrhaeddodd Daley safle gorau ei yrfa yn rhif un yn Safleoedd Plymio Byd FINA ar gyfer y bwrdd deg metr.[6]

Enillodd ddwy fedal aur i Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010, yn y plymio ar y cyd (synchro) 10 metr (gyda Max Brick) a'r gystadleuaeth Unigol Bwrdd 10m,[7] ac enillodd y fedal efydd ar gyfer Prydain Fawr yn y gystadleuaeth unigol yng Ngemau'r Olympaidd 2012.[8] Enillodd Daley a Matty Lee y fedal aur yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.[9] Enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis gyda Noah Williams.

Yn dilyn ei lwyddiant yng Ngemau'r Olympaidd 2012 a haf lle daeth chwaraeon yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, gofynnodd y rhwydwaith deledu ITV i Daley gymeryd rhan mewn sioe realaeth newydd o'r enw Splash! yn dangos enwogion yn dysgu sut i blymio. Cychwynnodd y sioe ar 5 Ionawr 2013 gyda Daley fel mentor i'r cystadleuwyr enwog.[10]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Daley yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i Debbie (née Selvester) a Robert Daley.[11][12] Mae ganddo ddau frawd - William sydd dair blynedd yn iau, a Ben sydd pum mlynedd yn iau.[13] Bu farw eu tad, Robert, o diwmor ar yr ymenydd ar 27 Mai 2001, yn 40 mlwydd oed.[14] Ei arwr plymio cynnar oedd y plymiwr Canadaidd Alexandre Despatie, a enillodd aur yng Ngemau'r Gymanwlad 1998 yn 13 mlwydd oed ,[15] a'r plymiwr Seisnig Leon Taylor, a fyddai'n ei fentora yn ddiweddarach.[16] Gwelwyd Daley gan hyfforddwr, yn cymryd rhan mewn gwersi plymio arferol, a fe'i rhoddwyd mewn sgwad gystadleuol yn Medi 2002. Ei gystadleuaeth gyntaf oedd Pencampwriaethau Cenedlaethol i Ddechreuwyr yn Ebrill 2003 lle enillodd fedal yn y categori bechgyn oed 8/9. Ym mis Medi 2003, cymerodd ran mewn digwyddiad wahoddiadol yn Southampton lle enillodd y gornestau 1 m, 3 m a byrddau, a gwnaeth ei argraff gyntaf ar gynulleidfa ehangach. Enillodd Daley ei grŵp oedran yn y Pencampwriaethau Prydeinig yn y sbringfwrdd 1 m, y sbringfwrdd 3 m, a'r bwrdd yn 2004, 2005, a 2006.[17]

Yn Mehefin 2003, y mis ar ôl ei ddegfed pen-blwydd,[18] enillodd y gystadleuaeth bwrdd yng ngrŵp Iau Cenedlaethol (dan 18), gan ei wneud yr enillydd ieuengaf o'r ornest honno.[17] Yn 2005 cystadlodd Daley fel cystadleuydd gwadd yn yr Australian Elite Junior Nationals a fe'i rhoddwyd yn gyntaf yn y byrddau a'n ail yn y sbringfwrdd 3 m springboard yn yr ornest grŵp oedran 14-15. Cystadlodd hefyd yn y categori 14-16 yn yr Aachen Junior International 2005, gan ddod yn ail yn y byrddau a trydydd yn y sbringfwrdd 3 m. Cyrhaeddodd y safon cymhwyster ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, ond ni ddewiswyd ar gyfer tîm Lloegr oherwydd ei oedran.[19] Yn 2006, roedd yn bencampwr Prydeinig dan-18 yn y byrddau a sbringfwrdd 3m, a daeth yn ail yn y bwrdd 10 m ym Mhencampwriaethau Prydeinig hŷn 2007, a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2006.[17]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Rhwng oed 11 a 14 mynychodd Daley Coleg Cymunedol Eggbuckland.[20] Yn 13 oed daeth yn gefnogwr o ChildLine, llinell gymorth i blant yn cael ei redeg gan yr NSPCC, ac ar y pryd fe ddatgelwyd ei fod wedi cael ei fwlio 18 mis ynghynt.[21] Yn Ebrill 2009, mewn cyfweliad gyda phrif bapur newydd lleol Plymouth, The Herald honnodd Daley ei fod wedi cael ei fwlio yn rheolaidd yn yr ysgol ers y Gemau Olympaidd,[22] a dywedodd ei dad wrth y BBC ei fod wedi ei dynnu allan o'r ysgol dros dro am fod ymateb yr ysgol wedi bod yn aneffeithiol.[23] Fe ganmolwyd Daley yn y cyfryngau am leisio barn am y broblem.[24][25]

Cynigiwyd ysgoloriaeth lawn i Daley i ysgol breswyl annibynnol Coleg Brighton, ond penderfynodd ei dad yn erbyn hyn oherwydd y pellter o'u cartref, ac aeth i drafodaethau gydag ysgol annibynnol leol Coleg Plymouth, oedd wedi cynnig "ysgoloriaeth sylweddol iawn".[26] Rhai wythnosau yn ddiweddarach, cadarnhawyd fod Daley wedi cofrestru yng Ngholeg Plymouth.[27]

Cymerodd Daley ei gymwysterau TGAU mewn cyfnodau byr i weithio o amgylch ei ymrwymiadau plymio. Perswadiodd y model Kate Moss i eistedd am ail-gread o ddarlun gwreiddiol ohoni gan David Hockney, fel rhan o waith ffotograffiaeth TGAU yn ail-greu gweithiau mawr o gelfyddyd, ar ôl ei chyfarfod wrth dynnu lluniau ar gyfer fersiwn Eidalaidd o Vogue.[28] Cafodd Daley un gradd A ac wyth gradd A* yn eu TGAU.[29]

Yn 2012, cwblhaodd ei astudiaeth dwy flynedd Lefel A[30] mewn mathemateg, Sbaeneg a ffotograffiaeth. Penderfynodd Daley i beidio gymeryd cwrs Bagloriaeth Ryngwladol oherwydd y pwysau oedd yn wynebu wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Derbyniodd A* yn ei lefel A ffotograffiaeth, ac A yn Sbaeneg a mathemateg.[31]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar 2 Rhagfyr 2013, ryddhaodd Daley fideo YouTube yn cyhoeddi ei fod mewn perthynas gyda dyn ers ynghynt yn y flwyddyn, gan ddatgan "Rwy' erioed wedi bod yn hapusach."[32][33] Dywedodd Daley ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd i siarad am ei fywyd preifat. Dywedodd: "Doeddwn i erioed wedi cael y teimlad o gariad, fe ddigwyddodd e mor gyflym. Roeddwn i wedi cael fy ysgubo gan y peth i'r graddau fel nad wy'n gallu cael e allan o fy mhen drwy'r amser." [34][35] Ei ddyweddi yw'r sgriptiwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd Dustin Lance Black.[36] Maent yn byw gyda'i gilydd yn Llundain.[37]

Yn 2014, roedd Daley yn rhif 3 ar y rhestr 'World Pride Power'.[38] Mae Daley wedi gwneud datganiadau anghyson ynglŷn â'i rywioldeb. Ar ôl ei ddatganiad fideo ar YouTube, dywedodd ei fod yn ddyn hoyw.[39] Yn ddiweddarach, mewn cyfweliad gyda The Guardian, yng Ngorffennaf 2015 gofynnwyd a oedd yn ddeurywiol, a dywedodd Daley : "I don’t put a particular label on any of it because right now I’m in a relationship with a guy, but I still have sexual feelings towards girls."[40] Pan ofynnwyd iddo am ddod i delerau gydaG atyniad cyfunrywiol a'i berthynas a Black, dywedodd ei fod wedi ei atynnu at ddynion erioed a'i fod "yng nghefn ei feddwl erioed... Doeddwn i erioed wedi cael teimladau o'r math yna at berson. Roeddwn i wedi bod mewn perthynas gyda merched lle'R oedd gen i deimladau rhywiol, ond daeth hyn yn llawer dwys pan wnes i gyfarfod Lance."[41]

Ar 1 Hydref 2015, cyhoeddwyd yn The Times fod Daley a Black wedi dyweddïo. Roedd y cyhoeddiad yn darllen: "The engagement is announced between Tom, son of Robert and Debra Daley of Plymouth, and Lance, son of Jeff Bisch of Philadelphia and Anne Bisch of Lake Providence."[42][43][44]

Daliadau

[golygu | golygu cod]

Yn Awst 2014, roedd Daley yn un o 200 ffigwr cyhoeddus i arwyddo llythyr yn The Guardian yn gwrthwynebu annibyniaeth i'r Alban yn y cyfnod cyn y refferendwm ar y pwnc ym mis Medi.[45]

Gweithgareddau cyfryngol

[golygu | golygu cod]

Mae Daley wedi bod yn weithgar iawn yn y cyfryngau. Mae ei galendrau blynyddol wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd.

Mae Daley yn weithgar iawn ar y cyfryngau cymdeithasol gan ymddangos ar ei sianel YouTube am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal â defnyddio ei sianel YouTube i ddod allan am ei berthynas cyfunrywiol gyda Dustin Lance Black, mae wedi ymddangos mewn nifer o fideos pellach gyda Black, a nifer o fideos ar bynciau eraill hefyd. Mae cyfresi poblogaidd yn cynnwys "Tom Dives Into..." yn 2015 a "The Daley Diary" yn 2016.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lonsbrough, Anita (25 February 2008). "Diver Tom Daley, 13, to make Olympic history". Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-11. Cyrchwyd 29 Awst 2008. When Thomas Robert Daley dives...
  2. 2.0 2.1 2.2 "Tom Daley". Team GB. Cyrchwyd 5 Ionawr 2013.
  3. "Tom Daley | British Swimming". Swimming.org. Cyrchwyd 26 Awst 2014.
  4. Benjamin Butterworth (26 Gorffennaf 2021). "Tom Daley and Dustin Lance Black: The gold medalist and his Oscar-winner husband are the ultimate power couple". People.
  5. "Beijing 2008 official site, Competition Information, Athletes and Teams". Web.archive.org. 22 Awst 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-22. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2012.
  6. "Fina Diving World Ranking".
  7. "BBC Sport - Delhi 2010: Tom Daley and Max Brick win diving gold". BBC News. 12 Hydref 2010. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
  8. Duncan White (12 Awst 2012). "Tom Daley wins Olympic diving bronze as USA's David Boudia takes 10m platform gold". Daily Telegraph. London: Telegraph Media Group Limited. Cyrchwyd 16 Awst 2012.
  9. "Tokyo Olympics: Tom Daley and Matty Lee win gold in men's synchronised 10m platform". BBC (yn Saesneg). 26 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021.
  10. Sweney, Mark (7 Ionawr 2013). "Tom Daley proves he's chairman of the board with solid debut for Splash!". The Guardian. London. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
  11. Ben Quinn. "Tom Daley's father dies of cancer". the Guardian.
  12. "Team Daley cheer on Tom". Plymouth Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-25. Cyrchwyd 2016-06-09.
  13. "Tom Daley mourns father Rob at funeral in Plymouth". BBC News. 8 Mehefin 2011.
  14. "Tom Daley's father Rob loses battle with cancer". BBC Sport. 28 Mai 2011. Cyrchwyd 28 Mai 2011.
  15. Reason, Mark (9 Awst 2008). "Tom Daley should not be in Beijing Olympics". Daily Telegraph. London. Cyrchwyd 5 Ionawr 2013.
  16. "Leon Taylor: mentoring the Olympians of the future". Daily Telegraph. London. 20 Mehefin 2012. Cyrchwyd 5 Ionawr 2013.
  17. 17.0 17.1 17.2 "Thomas Daley - Mens Platform World Champion 2009". Plymouth Diving. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-21. Cyrchwyd 27 Medi 2009.
  18. Mae peth dryswch ynglŷn â'i oed yn ennill ei deitl Prydeinig cyntaf dan 18 oed: mae rhai adroddiadau, yn cynnwys eif am, yn dweud ei fod yn 9, tra fod ei broffil swyddogol Nofio Prydeinig yn dweud ei fod yn 10.
  19. "Tom Daley: Set to make a splash at Beijing". ABC News. abc.net.au. 15 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
  20. "tom daley olympic hero goes back to school, Eggbuckland Community College in Plymouth, Devon". This is Bristol. 3 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-13. Cyrchwyd 14 Chwefror 2012.
  21. "13 Year old British Olympian pledges support for the NSPCC". nspcc.org.uk. NSPCC. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  22. "Star Tom Daley taunted by playground bullies". Plymouth Herald. 23 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-26. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  23. "Dive star Daley bullied at school". BBC News. 23 Ebrill 2009. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  24. "Charity backs bullied Tom Daley". CBBC Newsround. BBC. 25 Ebrill 2009. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  25. Shân Ross (24 Ebrill 2009). "An Olympic hero aged just 14 – but bullies make his life hell". The Scotsman. Edinburgh: Johnston Press Digital Publishing. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  26. Joanna Sugden (24 Ebrill 2009). "Private schools compete for Tom Daley". The Times. London: Times Newspapers Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-04. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  27. "Dive star moves to public school". BBC News. 2 Mehefin 2009. Cyrchwyd 9 Ebrill 2010.
  28. Jeffries, Stuart (23 Mai 2012). "London 2012: 'I dream of doing my best dive,' says Tom Daley". The Guardian. Cyrchwyd 15 Medi 2012.
  29. "BBC Sport - Diving - GB diver Tom Daley gets top marks in GCSE exams". BBC News. 25 Awst 2010. Cyrchwyd 14 Medi 2013.
  30. Aitkenhead, Decca (Hydref 2010). "Tom Daley: Man and boy". The Guardian. London. Cyrchwyd 30 Hydref 2010.
  31. Philipson, Alice (15 Awst 2013). "A-level results 2013: Olympic diver Tom Daley achieves straight As". Daily Telegraph. London. Cyrchwyd 14 Medi 2013.
  32. "Olympic diving star Tom Daley Daley reveals relationship with man". BBC News. 2 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2013.
  33. Daley, Tom (subject and author) (2013). Tom Daley: Something I want to say... (Home video). Tom Daley. Cyrchwyd 2013-12-02.
  34. "Olympic diver Tom Daley reveals it was 'love at first sight' when he met partner". ITV News. 5 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2013.
  35. "Tom Daley and Dan Goodfellow book place at 2016 Olympics in Rio". The Guardian. Cyrchwyd 13 Mai 2016.
  36. Respers France, Lisa (2 Hydref 2015). "Tom Daley engaged to Dustin Lance Black". CNN. Cyrchwyd 22 Mai 2016.
  37. Malec, Brett (2 Mai 2014). "Tom Daley: 'I Am A Gay Man Now'". E! Online. Cyrchwyd 4 Mai 2014.
  38. "World Pride Power List 2014". The Guardian.
  39. Malec, Malec (3 Ebrill 2014). "Tom Daley and Boyfriend Dustin Lance Black Move in Together in London". Huffington Post. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.
  40. Simon Hattenstone (18 Gorffennaf 2015). "Tom Daley: 'I always knew I was attracted to guys'". The Guardian. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2015.
  41. Malec, Malec (18 Gorffennaf 2015). "Tom Daley Bares All In 'Guardian' Interview on Dating Dustin Lance Black, 2016 Olympics, and Growing Up Gay". towleroad. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-08. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.
  42. Nadia Khomami (1 Hydref 2015). "Tom Daley announces engagement to film-maker Dustin Lance Black | Sport". The Guardian. Cyrchwyd 1 Hydref 2015.
  43. Jenny Booth (1 Hydref 2015). "Tom Daley gets engaged to his boyfriend". The Times. Cyrchwyd 1 Hydref 2015.
  44. "Tom Daley Talks 'Crazy' Attention On His Relationship With Dustin Lance Black". The Huffington Post. 2 Mai 2014. Cyrchwyd 4 Mai 2014. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  45. "Celebrities' open letter to Scotland – full text and list of signatories | Politics". theguardian.com. 2014-08-07. Cyrchwyd 26 Awst 2014.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: