[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Comin Wicimedia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Comin Wikimedia)
Logo Comin Wikimedia (gan Reid Beels)

Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wikimedia (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wicimedia yw hi, a gellir gweld prosiectau eraill Sefydliad Wikimedia, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, yn defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.

Lansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho.

Ar 25 Tachwedd 2009, rhoddodd y Tropenmuseum, Amsterdam rodd o 35,000 o ddelweddau sy'n ymwneud ag Indonesia a'i diwylliant i Gomin Wikimedia. Ar ddiwedd Rhagfyr 2009 dechreuwyd trosglwyddo tua 1.5 miliwn o ddelweddau o dirwedd ac aneddiadau gwledydd Prydain o wefan geograph.or.uk i'r Comin.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]

Prif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddiwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i mewn i ieithoedd eraill e.e. yr Hafan yn Gymraeg.

Hawlfreintiau

[golygu | golygu cod]

Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus.

Ffeiliau o Gymru

[golygu | golygu cod]

Ymhlith y miloedd o ffeiliau o Gymru, yn Chwefror 2014 uwchlwythwyd holl ffotograffau John Thomas wedi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddatgan nad ydynt yn berchennog ar y ffeiliau hynny alan o hawlfraint. Mae'r ffotograffau hyn i'w gweld yma.

Dolennu gydag erthyglau Wicipedia

[golygu | golygu cod]

Mae 'galw' delwedd i fewn i erthygl ar Wicipedia yn hawdd, gan mai'r cwbwl sydd angen ei wneud ydy galw ei enw o fewn cromfachau sgwâr e.e. [[Delwedd|Dafydd-Iwan-Portrait_by-Aberdare-Blog.jpg|bawd]]; mae'r geiryn 'bawd' yn lleihau'r maint i'r maint arferol. Gall y ddelwedd fod ar Gomin neu ar y Wicipedia. Mae'r lluniau sydd ar Comin ar gael ar unrhyw un o'r 290+ Wicipedia, ond mae llun a uwchlwythir ar y Wicipedia Cymraeg ar gael yn yr iaith honno'n unig (e.e. cloriau llyfrau).

Ar waelod llawer o erthyglau ar Wicipedia ceir baner ar ffurf petrual, sy'n ei gwneud yn hawdd i ddolennu gyda Chomin. Gellir dolennu gyda thudalen ar Comin neu gyda Chategori ar Comin. I ddolennu gydag erthygl ar Comin gellir ychwanegu'r Nodyn hwn: {{Comin|Dafydd Iwan}}. Os oes Categori o luniau ar Comin, gellir ychwanegu dolen i'r Categori hwnnw: e.e. {{CominCat|Corduliidae}}. Nodyn Comin Gan mai'r Saesneg yw iaith de facto, rhyngwladol Comin, dylid nodi'r enw yn yr iaith sydd ar Comin e.e. {{CominCat|Assemblea Nacional Catalana}} ac NID {{CominCat|Cynulliad Cenedlaethol Catalonia}}.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]