[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Rafael Nadal

Oddi ar Wicipedia
Rafael Nadal
Rafael Nadal yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Pencampwriaethau Clwb y Frenhines, yn Llundain, ym Mehefin 2015
GanwydRafael Nadal i Parera Edit this on Wikidata
3 Mehefin 1986 Edit this on Wikidata
Manacor Edit this on Wikidata
Man preswylManacor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Pwysau85 cilogram Edit this on Wikidata
TadSebastià Nadal Edit this on Wikidata
MamAina María Parera Edit this on Wikidata
PerthnasauToni Nadal, Miguel Ángel Nadal, Rafael Nadal Nadal Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Laureus World Sports Award for Breakthrough of the Year, Best International Athlete ESPY Award, BBC World Sport Star of the Year, Laureus World Sports Award for Sportsman of the Year, Best Male Tennis Player ESPY Award, Best Male Tennis Player ESPY Award, Laureus World Sports Award for Comeback of the Year, L'Équipe Champion of Champions, Adopted Son of Madrid, Medal Aur Gorchymyn Brenhinol Teilyngdod Chwaraeon, Gold Medal of Work Merit, Spanish Order of the Police Merit, Gwobr Time 100, Galardón Camino Real Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://rafaelnadal.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonSbaen Edit this on Wikidata
llofnod

Chwaraewr tenis o Sbaen yw Rafael "Rafa" Nadal Parera ([rafaˈel naˈðal]); ganed 3 Mehefin 1986) a gydnabyddir yn un o'r chwaraewyr gorau yn hanes y gêm. Gyda Roger Federer a Novak Djokovic, efe yw un o'r "Tri Mawr", y chwaraewyr gwrywaidd sydd wedi dominyddu byd tenis yn yr 21g. Enillodd Nadal 22 o deitlau senglau'r Gamp Lawn, gan gynnwys Pencampwriaeth Agored Ffrainc (Roland-Garros) 14 o weithiau, Wimbledon dwywaith, Pencampwriaeth Agored Awstralia dwywaith, a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau pedair gwaith. Mae'n nodedig am ragori ar gwrtiau clai, ac am hynny fe'i elwir yn "Frenin y Clai".

Ganed ef ym Manacor, Mallorca, yn yr Ynysoedd Balearig, Sbaen. Cychwynnodd chwarae tenis yn 4 oed, dan hyfforddiant ei ewythr, Toni Nadal. Er iddo ysgrifennu gyda'i law dde, chwaraei yn y dull llawchwith ers ei flynyddoedd cynnar, gyda thrawiadau blaenlaw a gwrthlaw ill dau'n ddeuddwrn. Yn 12 oed, ar anogaeth ei ewythr, dechreuodd chwarae yn y dull llawchwith arferol, gyda thrawiad blaenlaw â'i law chwith yn unig, ond yn parhau gyda'i drawiad gwrthlaw deuddwrn. Trodd Nadal yn broffesiynol yn 2001 yn 15 oed, a chyrhaeddodd rownd gynderfynol y bechgyn yn Wimbledon yn 2002, yr unig dro iddo gystadlu fel chwaraewr iau mewn un o becampwriaethau'r Gamp Lawn.

Yn 2003 esgynnodd i'r rhestr o 50 chwaraewyr gwrywaidd uchaf y byd, ac yn Awst 2004, yn 18 oed, enillodd ei deitl cyntaf yn Nghylchdaith yr ATP, gan gipio cystadleuaeth senglau Pencampwriaeth Agored Idea Prokom yn Sopot, Gwlad Pwyl. Yn rownd derfynol Cwpan Davis yn Rhagfyr 2004, chwaraeodd Nadal ran allweddol wrth gipio'r gystadleuaeth i dîm cenedlaethol Sbaen, gan guro'r Americanwr Andy Roddick, Rhif 2 y byd, mewn pedair set. Daeth Nadal i'r amlwg fel un o chwaraewyr goreuaf yr ATP, ac yn haf 2005, wedi iddo guro Roger Federer, Rhif 1 y byd, yn y rownd gynderfynol, fe drechodd Mariano Puerta yng ngornest derfynol Roland-Garros, ei dro cyntaf i chwarae yn y bencampwriaeth honno. Enillodd 10 twrnamaint arall ar Gylchdaith yr ATP y flwyddyn honno, record ar gyfer chwaraewr gwrywaidd yn ei arddegau.

Datblygodd gelyniaeth gyfeillgar rhwng Nadal a Federer, a ystyrir yn un o'r ymgystadlaethau personol gwychaf yn hanes tenis.[1] Yn 2006, enillodd Nadal bum twrnamaint ATP arall, gan gynnwys ei ail bencampwriaeth yn Roland-Garros, gan guro Federer mewn pedair set yn y rownd derfynol. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, fe gyrhaeddodd rownd derfynol Wimbledon, gan golli i Federer mewn pedair set. Sicrhaodd Nadal record wrth ennill 81 o ornestau yn olynol ar gwrtiau clai, cyn colli o'r diwedd i Federer ym Mai 2007 yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Hamburg. Yn yr haf hwnnw, cyfarfu'r ddau eto yn rowndiau derfynol Roland-Garros a Wimbledon: enillodd Nadal y Bencampwriaeth Ffrengig am y trydydd tro, a chollodd Wimbledon eto i Federer, wedi pum set a barodd am bedair awr bron. Yn 2008, daeth Nadal yn y dyn cyntaf i ennill Roland-Garros a Wimbledon yn yr un flwyddyn, ers Björn Borg ym 1980: bu eto yn drech na Federer i ennill Roland-Garros am y pedwerydd tro yn olynol, ac am y tro cyntaf fe gurodd Federer yn rownd derfynol Wimbledon, wedi pum set a barodd am bump awr bron, a ystyrir yn un o'r gornestau gwychaf yn hanes tenis. Yn 2008 hefyd enillodd Nadal y fedal aur yng nghystadleuaeth senglau'r dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn Beijing, ac esgynnodd i safle Rhif 1 am y tro cyntaf, gan ddisodli cyfnod Federer yn chwaraewr uchaf y byd ers Chwefror 2004. Nadal oedd Rhif 2 y byd y tu ôl i Federer am record o 160 o wythnosau cyn iddo ennill y safle uchaf.[2]

Yn 2009 enillodd Nadal Bencampwriaeth Agored Awstralia am y tro cyntaf, gan guro Federer mewn pum set yn y rownd derfynol. Yn annisgwyl, cafodd ei gurio gan Robin Söderling yn y bedwaredd rownd yn Roland-Garros, yr ornest gyntaf a gollwyd ganddo yn y bencampwriaeth honno. Ar ddiwedd y flwyddyn, cipiodd Gwpan Davis unwaith eto i Sbaen gan guro'r Tsieciaid Tomáš Berdych ac yna Jan Hájek yn y rownd derfynol. Dychwelodd i fuddugoliaeth yn Roland-Garros yn 2010, gan guro Söderling mewn tair set, ac enillodd Wimbledon unwaith eto gan guro Berdych mewn tair set. Ym Medi 2010 enillodd Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf, gan sicrhau "Camp Lawn yr yrfa". Enillodd Roland-Garros am y chweched tro yn 2011, gan guro Federer eto yn y rownd derfynol, ond collodd yn y rownd derfynol i Novak Djokovic yn Wimbledon 2011, Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau 2011, a Phencampwriaeth Agored Awstralia 2012. O'r diwedd, bu'n drech na Djokovic yng ngornest derfynol Roland-Garros yn 2012, gan guro hefyd record Björn Borg o'r nifer fwyaf o deitlau senglau'r dynion yn y bencampwriaeth honno. Enillodd Roland-Garros eto yn 2013, y dyn cyntaf i ennill un o bencampwriaethau'r Gamp Lawn wyth gwaith. Enillodd Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau am yr eildro yn 2013, a Roland-Garros am y nawfed tro yn 2014.

Dioddefai Nadal anafiadau yn fynych yn ei yrfa, a chafodd fwlch ar ddiwedd tymor 2014 o'r herwydd. Methodd ennill yr un o bencampwriaethau'r Gamp Lawn yn 2015 a 2016. Fodd bynnag, enillodd ei ail fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro. Cyrhaeddodd un o rowndiau terfynol y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers tair mlynedd yn 2017, yn Awstralia, gan golli mewn pum set i Federer. O'r diwedd, enillodd Roland-Garros am y degfed tro a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau am y trydydd tro yn 2017. Er i rai ragdybio y byddai ei anafiadau yn niweidio'i yrfa ddiweddarach, mae Nadal wedi parhau i ddominyddu'r cyrtiau clai yn ei dridegau, gan ennill Roland-Garros eto yn 2018, 2019, 2020, a 2022, ac hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Agored Awstralia am yr eildro yn 2022 a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau am y pedwerydd tro yn 2019.

O'r twrnameintiau Meistri'r ATP, mae Nadal wedi ennill Meistri Monte-Carlo 11 o weithiau, Pencampwriaeth Agored yr Eidal dengwaith, Pencampwriaeth Agored Canada pum gwaith, Meistri Hamburg/Madrid pum gwaith, Meistri Indian Wells teirgwaith, Meistri Madrid unwaith, a Meistri Cincinnati unwaith. Efe yw'r unig ddyn ar wahân i Björn Borg i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc pedwar gwaith yn olynol, un o ddim ond tri dyn yn yr Oes Agored i ennill Pencampwriaeth Agored Ffrainc a Wimbledon yn yr un flwyddyn galendr, yr ail Sbaenwr i ennill Wimbledon, a'r unig ddyn i fynd i mewn i'r Gemau Olympaidd gyda safle yn y pump uchaf ac yna ennill medal aur yn y gystadleuaeth senglau. Nadal sy'n dal y record am ennill y mwyaf o ornestau olynol ar yr un arwyneb yn yr Oes Agored, gan iddo chwarae 81 o ornestau ar glai yn olynol o Ebrill 2005 i Mai 2007 heb gael ei drechu.[3] O ganlyniad, ystyrid gan rai sylwebyddion a phrif chwaraewyr tenis fel y chwaraewr cyrtiau clai gorau erioed.[4][5][6] Yn 2008, derbyniodd Gwobr Tywysog Asturias am chwaraeon.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Roger, Rafa to Meet in Record Sixth Grand Slam Final (4 Gorffennaf, 2008).
  2. (Saesneg) It's official: Nadal will pass Federer for No. 1. NBC (1 Awst, 2008). Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
  3. (Saesneg) Garber, Greg (20 Mai, 2007). Federer ends Nadal's win streak. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
  4. (Saesneg) Harwitt, Sandra (8 Mehefin, 2008). Is Rafael Nadal the best clay-court player ever?. ESPN. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
  5. (Saesneg) Perrotta, Tom (28 Ebrill, 2008). Nadal Appearing Unbeatable on Clay. The New York Sun. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
  6. (Saesneg) Bondo, Peter. Endgame on Clay. TENNIS.com. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.
  7. (Saesneg) Rafael Nadal (enillwr Gwobr Chwaraeon 2008). Fundación Príncipe de Asturias. Adalwyd ar 27 Medi, 2008.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Safleoedd chwaraeon
Rhagflaenydd:
Roger Federer
Rhif 1 y Byd
18 Awst 20086 Gorffennaf 2009
Olynydd:
Roger Federer
Rhagflaenydd:
Roger Federer
Rhif 1 y Byd
7 Mehefin 2010 – presennol
Olynydd:
deiliad
Gwobrau
Rhagflaenydd:
Nicolás Massú
Pencampwr Olympaidd
2008
Olynydd:
deiliad
Rhagflaenydd:
Paul-Henri Mathieu
Gwobr ATP am y Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn
2003
Olynydd:
Florian Mayer
Rhagflaenydd:
Joachim Johansson
Gwobr ATP am y Chwaraewr sydd wedi Gwella Mwyaf
2005
Olynydd:
Novak Djokovic
Rhagflaenydd:
Liu Xiang
Gwobr Laureus am Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn
2006
Olynydd:
Amélie Mauresmo