Mawr
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,850, 1,829 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,780.82 ha |
Cyfesurynnau | 51.709°N 3.984°W |
Cod SYG | W04000581 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Cymuned yn Sir Abertawe, Cymru, yw Mawr. Saif ar dir bryniog i'r gogledd o Langyfelach. Cafodd ei enw gan mai'r tir yma oedd y darn mwyaf o dir yn hen blwyf Llangyfelach.
Mae'r gymuned yn cynnwys Craig-cefn-parc, Felindre a Penlle'r Castell. (Felindre ydy prif bentref y gymuned.) Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,800 yn 2001, gyda 56.27% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg, y ganran uchaf yn sir Abertawe.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Ward etholiadol
[golygu | golygu cod]Defnyddir yr enw hefyd fel enw'r ward etholiadol.
Etholiadau'r cyngor lleol 2012
[golygu | golygu cod]Yn etholiadau'r cyngor lleol yn 2012, 44.82% oedd y canran a bleidleiswyd. Dyma oedd y canlyniadau:
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Statws |
---|---|---|---|
Ioan Richard | The People's Representative | 295 | Dalwyd gan The People's Representative |
Rhys Aeron Jones | Llafur | 213 | |
Linda Mary Frame | Plaid Cymru | 149 |
Cyfeiriad at yr ardal yn y cyfryngau
[golygu | golygu cod]Yn ôl cyfweliad gyda'r bardd Dyfan Lewis[7]:
"Yn anffodus, mae ein naratifau ni ynghylch Cymru ddim o reidrwydd yn galluogi ocsigen i lefydd fel hyn i fodoli, achos rydych chi naill ai yn y de diwydiannol Saesneg neu yn y gorllewin neu’r gogledd amaethyddol Cymraeg gyda rhai pobol...
Dyw [ardal Mawr] ddim wedi newid rhyw lawer; mae’n dal i fod yn gymuned Gymraeg...
Ond dw i’n poeni o fewn y degawd neu ddau nesaf y bydd hi’n newid i fod yn faestref o Abertawe.
Bydd natur y gymuned yn newid, oherwydd fe fydd pobol ddim yn gweld y gymuned fel rhywbeth ar wahân i Abertawe, ac yn jyst yn ei gweld hi fel rhywle i barcio’u car a mynd iddi ar ôl diwrnod yn gweithio yn y ddinas."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cefn-gwlad/551997-bardd-ifanc-eisiau-dathlu-ardal-eithriadol-craig
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth