Rebecca Evans (gwleidydd)
Rebecca Evans AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Gweinidog Cyllid | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Mark Drakeford |
Trefnydd y Senedd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Rhagfyr 2018 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Julie James |
Aelod o Senedd Cymru dros Gŵyr | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Edwina Hart |
Mwyafrif | 1,829 (6.1%) |
Aelod o Senedd Cymru dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru | |
Yn ei swydd 5 Mai 2011 – 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Alun Davies |
Dilynwyd gan | Eluned Morgan |
Manylion personol | |
Ganwyd | Pen-y-bont ar Ogwr | 2 Awst 1976
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Alma mater | Prifysgol Leeds |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Rebecca Evans (ganwyd 2 Awst 1976). Mae'n Aelod o'r Senedd ers 2011, yn gyntaf dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac ers etholiad 2016, yn aelod dros Gŵyr.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Astudiodd Evans BA Hanes ym Mhrifysgol Leeds gan ysgrifennu traethawd ar y Mudiad Hawliau Sifil Americanaidd. Fe aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Sidney Sussex ym Mhrifysgol Caergrawnt lle derbyniodd radd Meistr mewn Athroniaeth ar gyfer ei thraethawd ymchwil The Time for Waiting is Gone: Lyndon Johnson and the Voting Rights Act of 1965.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd Evans fel Swyddog Materion Cyhoeddus a Pholisi i elusen cenedlaethol yn cynrychioli pobl anabl a'i teuluoedd. Roedd hefyd yn drefnydd Llafur Cymru ar gyfer Canol a Gorllewin Cymru, a chyn Swyddog Ymchwilio a Chyfathrebu ar gyfer aelod o'r Cynulliad.
Aelod Cynulliad
[golygu | golygu cod]Yn y Cynulliad mae Evans wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaladwy, y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddol Cyffredin, y Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Craffu Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae hefyd wedi cadeirio y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth, y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ac yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd.
Yn 2014 penodwyd yn Ddirprwy Weinidog ar gyfer Ffermio a Bwyd yn Llywodraeth Cymru.