Morwyn
Y cyflwr o fod heb brofi cyfathrach rywiol yw morwyndod.[1][2] Mae llawer o ddiwylliannau'r byd yn edrych ar forwyndod drwy lygad gwahanol: e.e. anrhydedd, purdeb a diniweitrwydd. Mewn rhai diwylliannau mae bod yn ddi-briod yn gyfystyr â bod yn forwyn. Mae'r gair Cymraeg 'morwyn' yn cyfeirio at fenyw yn unig ond gall 'golli morwyndod' hefyd gyfeirio at fechgyn.
Mae'r gair 'morwyn' hefyd yn golygu gweinyddes mewn plasdy neu dŷ bwyta. Gwas yw'r gair am y gwryw.
Oedran
[golygu | golygu cod]Mae oedran colli morwyndod yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r tabl (ar y dde) yn dangosbfod Lloegr a Chymru yn ddwy wlad lle mae pobl ifanc yn colli eu morwyndod yn gynnar iawn. Oed cydsynio yw'r oedran mae'r wlad yn ei gosod mewn deddf, lle mae cael cyfathrach rywiol cyn hynny yn anghyfreithlon. 18 oed yw'r norm, ond mae'n amrywio dipyn go lew. Hyd at y 18g roedd oed gydsynio mor isel â 12 yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.
Gwlad | Bechgyn (%) | Merched (%) |
---|---|---|
Awstria | 21.7 | 17.9 |
Canada | 24.1 | 23.9 |
Croasia | 21.9 | 8.2 |
Lloegr | 34.9 | 39.9 |
Estonia | 18.8 | 14.1 |
Ffindir | 23.1 | 32.7 |
Gwlad Belg | 24.6 | 23 |
Ffrainc | 25.1 | 17.7 |
Gwlad Groeg | 32.5 | 9.5 |
Hwngari | 25 | 16.3 |
Israel | 31 | 8.2 |
Latfia | 19.2 | 12.4 |
Lithwania | 24.4 | 9.2 |
Macedonia | 34.2 | 2.7 |
Yr Iseldiroedd | 23.3 | 20.5 |
Gwlad Pwyl | 20.5 | 9.3 |
Portiwgal | 29.2 | 19.1 |
Yr Alban | 32.1 | 34.1 |
Slofenia | 28.2 | 20.1 |
Sbaen | 17.2 | 13.9 |
Sweden | 24.6 | 29.9 |
Swistir | 24.1 | 20.3 |
Wcráin | 47.1 | 24 |
Cymru | 27.3 | 38.5 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Virginity". Merriam-Webster. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "Virginity". TheFreeDictionary.com. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2013.
- ↑ Godeau, Emmanuelle; Nic Gabhainn, Saoirse; Vignes, Ce´line; Ross, Jim; Boyce, Will; Todd, Joanna (Ionawr 2008). "Contraceptive Use by 15-Year-Old Students at Their Last Sexual Intercourse Results From 24 Countries". Archives of Pediatrics & Adolescent Medicine 162 (1). http://www.nuigalway.ie/hbsc/documents/godeau_2008_contraceptive_use_apam_1621_6673.pdf. Adalwyd 14 Ionawr 2012.