Efwr
Gwedd
Heracleum sphondylium | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Heracleum |
Rhywogaeth: | H. sphondylium |
Enw deuenwol | |
Heracleum sphondylium Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn blodeuol ydy Efwr sy'n enw gwrywaidd (hefyd: Bras Gawl, Cecsen, Cron, Efwr Cyffredin, Efyrllys, Ewr, Moron y Meirch, Moron y Moch, Moronen y Meirch, Panasen y Cawr, Pannas Gwyllt a Phannas y fuwch). Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Heracleum sphondylium a'r enw Saesneg yw Hogweed. Mae'n frodorol i Ewrop ac Asia.
Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal.
Llafar
[golygu | golygu cod]- Yr “Ewr”
- Wrth sgwrsio efo'm cyfaill Tudur Pritchard yn ddiweddar (31 Awst 2012) digwyddodd Tudur son am chwarae yn ystod ei blentyndod ym Mhenmynydd, Môn efo'r "ewr". Dywedodd hyn yn hollol naturiol fel petai o wedi dod yn syth o dafod lleferydd yr ardal. Wrth drafod ymhellach daeth yn amlwg mai "efwr" oedd ganddo.[1].
- Ar ôl ei holi ymhellach, atebodd Tudur “Magwyd fi ar fferm ynghanol Ynys Môn, ac fel plant yr oeddym yn chwarae yn y coed a amgylchynnai’r ffermdy. Yr oedd un llwyn o goed fel petaent wedi eu plannu yn ddiweddar (dyweder eu bod yn 25 mlwydd oed yr amser hynny), a hynny yr ochr orllewinol i’r prif goedlan. Golyga hyn, wrth gwrs ei fod yn gysgod, ac yn nanedd y gwynt de orllewinol sydd yn ysgubo ar draws yr ynys. O’tanynt yr oedd trwch o ewr yn tyfu, a hwnnw yn ardderchog i ni fel plant chware ynddo a chuddio, ei dorri i wneud pastwn (a barai ychydig funudau gan ei fod mor wan). Yr oeddem hefyd yn ei dynnu o’r gwraidd, ac yn gweld caratsen o’tanno, gan ddysgu ei fod yn perthyn i’r carots cyffredin”.[2].
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur