Carl Benz
Carl Benz | |
---|---|
Ganwyd | Karl Friedrich Michael Benz 25 Tachwedd 1844 Mühlburg |
Bu farw | 4 Ebrill 1929 Ladenburg |
Man preswyl | Carl-Benz-Haus |
Dinasyddiaeth | Republic of Baden, Grand Duchy of Baden |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | peiriannydd, dyfeisiwr |
Priod | Bertha Benz |
Plant | Richard Benz, Eugen Benz |
Gwobr/au | Rudolf-Diesel-Medaille, Doethuriaeth Anrhydeddus Sefydliad Technoleg Karlsruhe, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr |
llofnod | |
Cynllunydd peiriannau ac yn beiriannydd ceir o'r Almaen oedd Karl Friedrich Benz, a sillefir fel Carl ar adegau (25 Tachwedd 1844, Karlsruhe – 4 Ebrill 1929, Ladenburg). Caiff ei ystyried fel y dyn a ddyfeisiodd y car a bŵerir gan betrol. Gweithiai ei gyfoedion, megis Gottlieb Daimler a Wilhelm Maybach a weithiai fel partneriaid, ar ddyfeisiadau tebyg ac yn ôl y sôn yn ddiarwybod o waith ei gilydd. Serch hynny Benz roddodd batent ar ei waith yn gyntaf ac ar ôl hynny, rhoddodd batent ar yr holl brosesau a wnaeth y modur tanio mewnol yn addas i'w ddefnyddio mewn ceir. Ym 1879 cafodd Benz batent ar gyfer ei fodur cyntaf, a gynlluniodd ym 1878.
Ym 1885, crëodd Karl Benz y Motorwagen, y modur masnachol cyntaf. Cawsai'r modur ei bŵeru gan injan betrol bedwar-stroc, sef ei gynllun ei hun. Derbyniodd batent ar gyfer ei fodur ar y 29ain o Ionawr, 1886. Roedd gan y modur dair olwyn a chawsai ei lywio gan yr olwyn flaen gyda'r teithwyr a'r injan yn cael eu cynnal gan y ddwy olwyn yn y cefn. Mae rhai pobl yn cyfeirio at y car fel y Tri-Car erbyn hyn. Gwerthodd ei fodur cyntaf ym 1888, pedair blynedd cyn unrhyw gynhyrchydd arall.
Ymysg pethau eraill, dyfeisiodd y system rheoli cyflymder sef y sbardun, y taniad gan ddefnyddio gwreichion o'r batri, y plwg tanio, y cydiwr, y newidiwr gêr, y rheiddiadur dwr a'r carbwradur.
Ym 1893, cyflwynodd Benz system lywio troi-ar-echel yn ei fodur Fictoria. Cynlluniwyd y Benz Victoria ar gyfer dau deithiwr a bwriadwyd gwerthu'r modur am gost îs er mwyn annog cynhyrchu'r modur ar raddfa eang.
Ym 1896, cynlluniodd Benz a gosod patent ar y modur tanio mewnol gwastad cyntaf gyda phistonau llorweddol gyferbyn a'i gilydd, a alwyd yn fodur bocsio neu boxermotor yn Almaeneg, cynllun sydd dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai ceir rasio sydd â moduron perfformiad uchel.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Almaeneg) Amgueddfa car Dr. Carl Benz