Canolfan yr iaith Roeg
Enghraifft o'r canlynol | rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Pencadlys | Thessaloníci |
Gwefan | http://www.greeklanguage.gr/ |
The Canolfan yr iaith Roeg (Groegeg: Κέντρον Ελληνικής Γλώσσας, trawslythrenni yn yr wyddor Ladin: Kéntron Ellinikís Glóssas; talfyriad Groegeg yn yr wyddor Ladin: K.E.G.; Saesneg: Center for the Greek Language) yn sefydliad diwylliannol ac addysgol sy'n anelu at hyrwyddo'r iaith a diwylliant Groeg. Fe'i sefydlwyd ym 1994.[1] Lleolir y ganolfan yn Thessaloniki, ac mae ganddi hefyd swyddfa yn Athen. Mae Canolfan yr Iaith Roeg yn gweithredu fel organ gydlynol, ymgynghorol a strategol i Weinyddiaeth Addysg Gwlad Groeg ar faterion addysg a pholisi iaith. Mae ei swyddogaethau'n cynnwys darparu deunyddiau a chymorth i bobl sy'n dysgu Groeg fel iaith dramor.[1][2] Mae'n gysylltiedig â Phrifysgol Aristotle Thessaloniki.
Noder hefyd, ceir Sefydliad Diwylliant Groeg sy'n gorff ar wahân.
Cennad
[golygu | golygu cod]Mae nodau’r sefydliad yn cynnwys:
- meithrin a hyrwyddo'r iaith Roeg o fewn a thu allan i Wlad Groeg
- trwy hyn, adgyfnerthiad o hunaniaeth genedlaethol y Groegiaid yn y diaspora
- trefniadaeth dysgu Groeg i dramorwyr yng Ngwlad Groeg a thramor[3]
- cefnogaeth athrawon yr iaith Roeg yng Ngwlad Groeg a thramor
- cynyrchu defnyddiau dysgeidiaeth, ac unrhyw beth arall a gyfrana at ddyrchafiad a lledaeniad yr iaith Roeg yn gyffredinol
Adrannau gwyddonol
[golygu | golygu cod]Mae aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn ogystal â dirprwyon, yn cael eu hethol am 5 mlynedd.[4] Mae Canolfan yr Iaith Roeg yn cynnwys yr adrannau gwyddonol canlynol:
Adran Geiryddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'n weithredol, ymhlith pethau eraill, wrth ddylunio ac ysgrifennu geiriaduron ac offer geiriadurol eraill, creu cronfeydd data geiriadurol ar gyfer cymwysiadau gwe a pharhad Geiriadur Kriaras.
Adran Ieithyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'n weithgar yn hyrwyddo hanes yr iaith Roeg ac mewn materion polisi iaith ac addysg iaith
Adran Cefnogi a Hyrwyddo'r Iaith Roeg
[golygu | golygu cod]Mae'n delio â threfnu'r Arholiadau Ardystio Hyfedredd Groeg ac yn paratoi rhaglenni ymchwil ar gyfer addysgu Groeg fel iaith dramor/ail iaith.
Adran Iaith a Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn cymryd rhan mewn astudio iaith a llenyddiaeth Roeg fodern (gwreiddiol a chyfieithedig) ac yn astudio iaith fel offeryn cyfieithu
Sefydliadau tebyg
[golygu | golygu cod]Mae Canolfan yr iaith Roeg yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Papailias, Penelope C (2006). "Do You Want to Go Forwarḍ Turn Back!: Etymology and Neoliberalism in Greek Language Ideology". Michigan Discussions in Anthropology 13 (1): 146. https://quod.lib.umich.edu/m/mdiaarchive/0522508.0013.001/136:7?g=mdiag;rgn=full+text;view=image;xc=1. Adalwyd 29 December 2020.
- ↑ Fevronia K. Soumakis; Theodore G. Zervas (2020). Educating Greek Americans: Historical Perspectives and Contemporary Pathways. Springer Nature. tt. 140–. ISBN 978-3-030-39827-9. Cyrchwyd 29 December 2020.
- ↑ "Identidad". greeklanguage.gr (yn Groeg).
- ↑ Руководяший совет, Safle swyddogol
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]