[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Rheilffordd ffwniciwlar

System gludiant yw rheilffordd ffwniciwlar, sy'n defnyddio cerbydau sy'n cael eu gyrru ar gledrau gan gebl i gysylltu lleoliadau ar hyd llethr serth. Mae dau gerbyd gwrthbwys wedi'u cysylltu gan yr un cebl, sy'n pasio dros bwli ar ben uchaf trac. Mae'r ddau gerbyd yn symud ar y cyd: wrth i'r naill esgyn, mae'r llall yn disgyn. Y trefniant hwn o ddefnyddio pâr o gerbydau cysylltiedig sy'n nodweddu system ffwniciwlar.

Rheilffordd ffwniciwlar
Mathsteep grade railway, cable railway, adeiladwaith pensaernïol, rhaffbont Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfunicular line, funicular station Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r term "ffwniciwlar" yn deillio o'r gair Lladin funiculus, sef "rhaff fach".

Daeth y system hon i ddefnydd yng nghanol y 19g, a hyd heddiw mae wedi parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd mewn trefi a dinasoedd lle mae llethr serth, yn ogystal â chyrchfannau i dwristiaid ar fynyddoedd.

Ym 1880 agorwyd rheilffordd ffwniciwlar a esgynnodd y llosgfynydd Mynydd Vesuvius ger Napoli, yr Eidal. Ysbrydolodd y digwyddiad hwn y gân Eidaleg boblogaidd Funiculì, Funiculà a ddaeth yn enwog drwy'r byd am gyfnod hir. (Dinistriwyd y rheilffordd hon gan ffrwydradau folcanig a'i gadael o'r diwedd ar ôl ffrwydrad 1944.)

Mae enghreifftiau rheilffyrdd ffwniciwlar yng Nghymru yn cynnwys Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth, Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, a Rheilffordd Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.