Cirgiseg
Iaith Dyrcaidd yw Cirgiseg a siaredir yn frodorol gan y Cirgisiaid, sydd yn byw yng Nghirgistan ac ym Mynyddoedd Pamir ar ffiniau Tajicistan, Affganistan, a gorllewin Tsieina. Perthyna Cirgiseg i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Gasacheg, Karakalpak, a Nogay.
Mae'r enghreifftiau cynharaf o Girgiseg ysgrifenedig yn dyddio o'r 19g ac yn cynnwys nodweddion o iaith lafar y Cirgiseg wedi eu hychwanegu at yr iaith Tsagadai safonol, a hynny drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg. Yn 1923 diwygwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1929 newidiwyd i'r wyddor Ladin. Yn 1940 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sail yr wyddor Gyrilig, a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Defnyddir yr wyddor Arabeg o hyd yn Tsieina.
Dosbarthiad ieithyddol
golyguPerthyna Cirgiseg i grŵp y gogledd-orllewin, neu’r Kipchak, yn nheulu’r ieithoedd Tyrcaidd. Y Girgiseg ydy’r drydedd iaith Kipchak fwyaf yn nhermau nifer ei siaradwyr, ar ôl Casacheg a Thatareg. Mae Cirgiseg modern yn perthyn yn agos iawn i Gasacheg, ac yn hanesyddol cafodd y Cirgisiaid a’r Casachiaid eu cysylltu ac yn aml eu cymysgu am y rheswm honno. Mae Cirgiseg yn rhannu nodweddion â ieithoedd Tyrcig de Siberia, gan gynnwys Altaeg, ond nid yw ieithyddion yn sicr os ydy Cirgiseg yn tarddu yn uniongyrchol o’r Hen Dyrceg.[1]
Dosraniad daearyddol
golyguTrwy gydol yr oes Sofietaidd, cedwid yr iaith Girgiseg yn gryf gan y Cirgisiaid ethnig a drigasant yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, er yr oeddynt yn cyfri am leiafrif o boblogaeth y weriniaeth honno. Yn ôl cyfrifiad 1979, roedd 97.9 y cant o Girgisiaid yn yr Undeb Sofietaidd yn hawlio’r Girgiseg yn famiaith.[2] Er i Rwsieiddio gael mwy o effaith yng Nghirgistan nac yng nghyn-wladwriaethau Sofietaidd eraill Canolbarth Asia, mae llai o bobl yn siarad Rwseg yr ardaloedd gwledig ac mae’r iaith Girgiseg wedi dal ei thir ar draws Cirgistan yn yr 21g.[3] Siaredir Cirgiseg gan ryw 5 miliwn o bobl yng Nghirgistan, a hefyd yn rhannau o Tsieina, Casachstan, Tajicistan, ac Wsbecistan.
Orgraff
golyguCyn yr oes Sofietaidd, ysgrifennwyd Cirgiseg ac ieithoedd Tyrcaidd eraill Canolbarth Asia yn yr wyddor Arabeg. Defnyddiwyd ffurf ddiwygiedig ar yr wyddor Arabeg o 1923 i 1929, pryd mabwysiadwyd yr wyddor Ladin. Yn 1940, dechreuwyd defnyddio’r wyddor Gyrilig i ysgrifennu’r Girgiseg. Mae Cirgistan yn parhau i ddefnyddio llythrennau Cyrilig er bod gwledydd cyfagos yng Nghanolbarth Asia, megis Tyrcmenistan ac Wsbecistan, wedi dychwelyd at y gyfundrefn Ladin.[3]
Gramadeg
golyguFfonoleg
golyguMae gan yr iaith Girgiseg modern 14 o ffonemau llafariaid, wyth ohonynt yn fyr a chwech yn hir.
Dengys y chwe ffonem llafariad hir gan ddeugraffau yn ôl yr orgraff Girgiseg.
Morffoleg
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cystrawen
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ffurfiau a thafodieithoedd
golyguRhennir tafodieithoedd Cirgiseg yn ddau grŵp: y gogleddol a’r deheuol.
Y tafodieithoedd gogleddol sydd yn sail i’r iaith lenyddol.
Gweler hefyd
golyguFfynonellau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Mark Kirchner, "Kirghiz" yn The Turkic Languages, golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), t. 344.
- ↑ J. C. Dewdney, "The Turkic Peoples of the USSR" yn The Turkic Peoples of the World, golygwyd gan Margaret Bainbridge (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2010 [1993]), tt. 243–44.
- ↑ 3.0 3.1 David Gullette, The Genealogical Construction of the Kyrgyz Republic: Kinship, State and ‘Tribalism’ (Folkestone, Caint: Global Oriental, 2010), t. 13.
Llyfryddiaeth
golygu- J. C. Dewdney, "The Turkic Peoples of the USSR" yn The Turkic Peoples of the World, golygwyd gan Margaret Bainbridge (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2010 [1993]), tt. 214–95.
- David Gullette, The Genealogical Construction of the Kyrgyz Republic: Kinship, State and ‘Tribalism’ (Folkestone, Caint: Global Oriental, 2010).
- Mark Kirchner, "Kirghiz" yn The Turkic Languages, golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), tt. 344–56.