Bae San Francisco
Mae Bae San Francisco yn fae yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America. O’i gwmpas mae Ardal Bae San Francisco, yn ardal boblog sy’n cynnwys San Francisco, San Jose, Berkeley ac Oakland. Mae’n aber i sawl afon, gan gynnwys Afon Sacramento, Afon Napa, Afon San Joaquin ac Afon Petaluma. Mae sawl ynys, megis Ynys Trysor, Ynys Alcatraz, Ynys Angel a Yerba Buena yn y bae.[1] Mae Culfor Golden Gate yn cysylltu’r bae i’r Cefnfor Tawel. Daeth y bae yn wlyptir Ramsar ar 2 Chwefror 2012[2]. Mae’r bae 60 milltir o hyd a rhwng 3 a 12 milltir o led.[3]
Math | bae |
---|---|
Cysylltir gyda | Golden Gate |
Daearyddiaeth | |
Sir | Califfornia |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.654654°N 122.237468°W |
Aber | Y Cefnfor Tawel |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan britannica.com
- ↑ "Gwefan sfbayjv". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-30. Cyrchwyd 2020-09-10.
- ↑ Gwefan britannica.com