[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Y Cefnfor Tawel

cefnfor rhwng Awstralia ac Asia

Y cefnfor mwyaf yn y byd yw'r Cefnfor Tawel (Saesneg: Pacific Ocean), sy'n gorwedd rhwng Asia yn y gorllewin a De a Gogledd America yn y dwyrain. Ceir ynysoedd niferus yn y cefnfor hwn sydd yn cael eu dosbarthu fel Melanesia, Polynesia a Micronesia, dosbarthiad diwyllianol yn hytrach na dosbarthiad daearyddol. Ymysg y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Tawel y mae Môr Bering, Môr Okhotsk, Môr Japan, Y Môr Melyn, Môr Dwyreiniol Tsieina, Môr De Tsieina, Môr Bismarck, Môr Solomon, Y Môr Cwrel a Môr Tasman.

Cefnforoedd y Ddaear
(Cefnfor y Byd)
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Y Cefnfor Tawel
Mathcefnfor Edit this on Wikidata
LL-Q58635 (pan)-Gaurav Jhammat-ਪ੍ਰਸ਼ਾਂਤ ਮਹਾਂਸਾਗਰ.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor y Byd Edit this on Wikidata
Sirdyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata
Arwynebedd161,760,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.000000°N 160°W Edit this on Wikidata
Map

Mae llawer o wledydd ar arfordir y cefnfor hwn: Rwsia, Japan, Taiwan, Y Philipinau, Indonesia, Papua Gini Newydd, Awstralia, Seland Newydd, Ffiji, Ciribati, Ynysoedd Marshall, Taleithiau Ffederal Micronesia, Nawrw, Palaw, Samoa, Ynysoedd Solomon, Tonga, Twfalw, Fanwatw, Unol Daleithiau America, Canada, Mecsic, Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Panama, Colombia, Ecwador, Periw a Tsile.

Mae ganddo arwynebedd o 179.7 miliwn km² (35% o arwynebedd y ddaear) ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwn km³ o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y Cefnfor Tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd 11,034m o dan lefel cymedrig y môr. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross yn Antarctica yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.

O'r Cefnfor Tawel gellir mynd i Gefnfor Arctig trwy Fôr Bering, i Gefnfor Iwerydd trwy Gamlas Panamâ neu rownd Yr Horn neu yn yr haf yn 2007 roedd yn bosib heibio gogledd Canada (does dim llwybr trwy'r iâ yn arferol), ac i Gefnfor India o gwmpas Awstralia neu drwy ynysoedd de-ddwyrain Asia a Chulfor Melaka, un o'r dyfrffyrdd prysuraf yn y byd.

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am Y Cefnfor Tawel
yn Wiciadur.