Ynys Kodiak
Gwedd
Delwedd:Kodiak, View from Pillar Mountain.jpg, Kodiak Island.jpg | |
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Kodiak |
Poblogaeth | 13,592 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Kodiak Archipelago |
Sir | Alaska |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 9,310 km², 3,595.09 mi² |
Uwch y môr | 4,469 troedfedd, 1,362.2 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 57.47°N 153.43°W |
Hyd | 160 cilometr |
Ynys yn perthyn i Unol Daleithiau America yw Ynys Kodiak (Saesneg: Kodiak Island). Saif ger arfordir deheuol Alaska, gyda Chulfor Shelikof yn ei gwahanu o'r tir mawr.
Gydag arwynebedd o 8,975 km², hi yw'r fwyaf i Ynysoedd Kodiak, ac ynys ail-fwyaf yr Unol Daleithiau; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae'n 163 km o hyd ac 13–96 km o led. Mae'n ynys fynyddig a choediog, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 1,353 medr. Cynhwysir dwy ran o dair o'r ynys mewn gwarchodfa natur. Y brifddinas yw Kodiak, yn nwyrain yr ynys. Mae poblogaeth yr ynys tua 10,000.