Vida
Term Ocsitaneg a ddefnyddir i ddisgrifio fywgraffiadau rhyddiaith byr sy'n crynhoi hanes bywyd trwbadŵr (bardd Ocsitaneg) neu trobairitz (prydyddes Ocsitaneg) yw Vida.
Mae'r gair vida (vita yn nhafodiaith Limousin) yn golygu "bywyd" (h.y. "buchedd") yn Ocsitaneg. Yn y chansonniers, casgliadau o gerddi canoloesol gan y trwbadwriaid yn y llawysgifau, mae gwaith bardd unigol yn aml yn gypledig â bywgraffiad byr mewn rhyddiaith. Ond ni ellir dibynnu'n ormodol ar y ffeithiau a geir yn y vidas am sawl manylyn yn deillio o ddarlleniad llythrennol o anturiaethau a ddisgrifir yng ngwaith y bardd neu o stoc cyffredin o hanesion am y trwbadwriaid neu o darddell mewn chwedlau llafar a thraddodiadau amdanynt.
Mae rhai o'r cerddi yn y llawysgrifau i'w cael gyda razós yn ogystal â vitas, sy'n manylu ar gefndir y cerddi, e.e. hanesyn am anturiaeth garwrol.
Mae'r trwbadwriaid y cedwir bucheddau amdanynt yn cynnwys Bernard de Ventadour.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Jean Boutière, Alexander H. Schutz, Biographies des troubadours, textes provençaux des XIIIe-IVe siecle, Paris, A.-G. Nizet, 1964