Uwch Gynghrair Slofacia
Gwlad | Slovacia |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1993 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | 2. liga |
Cwpanau | Slovnaft Cup |
Cwpanau rhyngwladol | Champions League Europa League |
Pencampwyr Presennol | ŠK Slovan Bratislava (2018–19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | ŠK Slovan Bratislava (9 teitl) |
Partner teledu | Slovenská televízia, RTVS OrangeTV |
Gwefan | http://www.fortunaliga.sk/ |
2019–20 Fortuna liga |
Gelwir Uwch Gynghrair Slofacia yn Super Liga. Gan mai prif noddwr cyfredol y Gynghrair yw Fortuna, gelwir yn swyddogol yn Fortuna Liga.[1] Sefydlwyd y Gynhrair yn 1993 yn dilyn rhannu hen wladwriaeth Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993. Y clwb sydd wedi ennill y mwyaf o bencampwriaethau yw ŠK Slovan Bratislava.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn 1918 roedd Slofacia yn rhan o ran Hwngari o Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Sefydlwyd rhai o glybiau'r wlad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wedi i Awstria-Hwngari (a'r Almaen) golli'r Rhyfel Mawr sefydlwyd gwladwriaeth newydd Tsiecoslofacia yn 1918. Cynhaliwyd pencampwriaeth Slofacaidd gyntaf, y Zväzové Majstrovstvá Slovenska rhwng timay o Slofacia rhwng 1925-1933. Hyd nes 1935-36 doedd dim un tîm o Slofacia wedi chwarae yng Nghynhrair Gynraf Tsiecoslofacia, cynghrair broffesiynnol y wladwrieth. Yr unig dîm o Slofacia yn yr uwch gynghrair yma oedd ŠK Slovan Bratislava.
Yn 1938 meddiannwyd Tsiecoslofacia gan y Natsiaid ac yna rhannwyd y wladwrieth, gyda Slofacia yn ennill annibyniaeth (er, gwelai nifer o bobl hyn fel gwlad byped i'r Natsiaid).[2] Bu'n rhaid i Slovan Bratislava adael cynghrair Tsiecoslofacia ac ymuno â chynghrair newydd y Slovenská liga (1939–1945) yng ngwladwriaeth newydd 'annibynnol', Slofacia.
Wedi i'r Natsiaid golli'r Ail Ryfel Byd yn 1945 ail-unwyd Slofacia gyda'r tiroedd Tsiec i ail-sefydlu Tsiecoslofacia (ond heb Ruthenia yn y dwyrain eithaf a 'wobrwyyd' i Iwcrain) gan Stalin.
Bu timau Slofacia yn chwarae yng nghyngrair Tsiecoslofacia hyd nes i'r wladwriaeth hwnnw ddod i ben ar ddiwrnod olaf 1992, ac ar 1 Ionawr 1993 crewyd dwy wlawriaeth newydd, Slofacia a'r Gweriniaeth Tsiec.
Enillwyr:[3]
1925 - 1. ČsŠK Bratislava |
1938–39 - Sparta Považská Bystrica |
Noddwyr
[golygu | golygu cod]cyfnod | Noddwr | Enw |
---|---|---|
1993–1997 | Dim prif noddwr | Superliga |
1997–2002 | Reemtsma | Mars superliga |
2002–2003 | Dim prif noddwr | Superliga |
2003–2014 | Heineken | Corgoň liga[4] |
2014–2023 | Fortuna | Fortuna liga[5] |
Timau Cyfredol (2018–2019)
[golygu | golygu cod]Tîm | Stadiwm | Capasiti neu seddi |
---|---|---|
FC DAC 1904 Dunajská Streda | MOL Aréna | 10,352 |
FC Spartak Trnava | Štadión Antona Malatinského | 19,200 |
FC ViOn Zlaté Moravce | Štadión FC ViOn | 4,000 |
AS Trenčín | Štadión na Sihoti | 3,500 |
FK Senica | OMS ARENA Senica | 5,070 |
MFK Ružomberok | Štadión pod Čebraťom | 4,817 |
ŠKF Sereď | Štadión pod Zoborom | 7,480 |
MFK Zemplín Michalovce | Mestský futbalový štadión | 4,440 |
MŠK Žilina | Štadión pod Dubňom | 11,313 |
ŠK Slovan Bratislava | Štadión Pasienky | 11,591 |
FK Železiarne Podbrezová | ZELPO Aréna | 4,061 |
FC Nitra | Štadión pod Zoborom | 7,480 |
Source for teams:[6]
Pencampwyr yn ôl Dinas
[golygu | golygu cod]Dinas | Teitl | Clybiau Buddugol |
---|---|---|
Bratislava | Slovan Bratislava (8), Inter Bratislava (2), Artmedia Petržalka (2) | |
Žilina | MŠK Žilina (7) | |
Košice | VSS Košice (2) | |
Trenčín | AS Trenčín (2) | |
Ružomberok | MFK Ružomberok (1) | |
Trnava | FC Spartak Trnava (1) |
Bold indicates clubs currently playing in the top division.
Seren Aur
[golygu | golygu cod]Yn seiliedig ar syniad Umberto Agnelli, rhoddir yr anrhydeddd o wisgo Seren Aur i dîm sydd wedi ennill sawl pencampwriaeth ar eu crysau.
Dim ond dau dîm yn Super Liga sy'n cael gwisgo'r anrhydedd yma sef:
- ŠK Slovan Bratislava derbyniwyd yn 2009
- MŠK Žilina derbyniwyd yn 2010
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Gwefan bêl-droed Slofac
- Super Liga gyfredol ar wefan Eurorivals
- Canlyniadau Super Liga ar wefan The-Sports.org
- Gwefan Bêl-droed Slofac
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Fortuna Liga: Standings". Slovakia: National League. FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 January 2012. Cyrchwyd 23 February 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Where's My Country? Czech clubs in the German football structure 1938–1944". Rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 March 2016. Cyrchwyd 27 January 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Slovakia - List of Champions". www.rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 September 2015. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ a.s., Petit Press. "Dnes prvýkrát na futbalovú Corgoň ligu". sme.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 July 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Teraz.sk. "Najvyššia futbalová súťaž mení názov, novým partnerom bude Fortuna". teraz.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 June 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Tímy". Fortuna liga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 1 May 2018. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)
|