Theresa Garnett
Theresa Garnett | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1888 Leeds |
Bu farw | 24 Mai 1966 Whittington Hospital |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ffeminist a swffragét milwriaethus o Loegr oedd Theresa Garnett (17 Mai 1888 - 24 Mai 1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymosod ar Winston Churchill tra'n cario chwip.[1] Bu hefyd yn olygydd anrhydeddus cylchgrawn ffeministaidd yn 1960.
Fe'i ganed yn Leeds ar 17 Mai 1888 yn ferch i Joshua Garnett a Frances Theresa Garnett; bu farw yn Ysbyty Whittington.[2] Fe'i haddysgwyd mewn eglwys Gatholig a oedd yn cael ei rhedeg gan leianod.[3]
Y ffeminist
[golygu | golygu cod]Gweithiodd fel athrawes am beth amser. Ym 1907, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union neu'r WSPU) ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan araith gan Adela Pankhurst.[4] Ym mis Ebrill 1909, sbardunodd rywfaint o ddiddordeb trwy gadwyno'i hun, ynghyd â phedwar gweithredwr arall, i gerflun yn Lobi Canolog y Senedd fel protest yn erbyn cyfraith gyfredol a oedd yn gwahardd yn union y math hwn o beth - ymddygiad afreolus ym Mhalas San Steffan pan oedd y Senedd mewn sesiwn.
Cafodd hi a Lillian Dove Willcox eu dyfarnu'n euog o ymosod ar warden yng Ngharchar Holloway a rhoddwyd dedfryd arall iddynt.[5]
Ar Dachwedd 14, 1909, ymosododd Garnett ar Winston Churchill yng ngorsaf reilffordd Bristol Temple Meads, gyda chwip ceffyl, ond methodd ag achosi unrhyw anaf. Cafodd ei harestio, a chafodd ei dedfrydu i fis yng Ngharchar Bryste am aflonyddu ar yr heddwch (nid oedd Churchill yn pwyso am yr ymosodiad ei hun). Aeth ar streic newyn, cafodd ei bwydo gan yr heddlu, ceisiodd roi ei chell ar dân, a danfonwyd hi i'r ysbyty.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Elizabeth Crawford, The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866–1928, Routledge, 2001, p. 237 ISBN 978-0-415-23926-4
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Elizabeth Crawford, ‘Garnett, (Frances) Theresa (1888–1966)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 30 Hydref 2017
- ↑ Women of the right spirit: paid organisers of the women's social and political union (WSPU) 1904-18, by Krista Cowman
- ↑ Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928, by Elizabeth Crawford
- ↑ 13 novembre 1909. Jeune ministre, Winston Churchill est agressé par la suffragette Theresa Garnett, on lepoint.fr
- ↑ Elizabeth Crawford (2001). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide, 1866-1928. Psychology Press. tt. 709–. ISBN 978-0-415-23926-4.