Theatr y Savoy
Math | sinema, theatr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 25.6 metr |
Cyfesurynnau | 51.8129°N 2.71452°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Saif Theatr y Savoy a'i sinema yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, sy'n dref â thua 9,000 o drigolion ynddi. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* a chafodd ei adnewyddu yn yr arddull gwreiddiol, traddodiadol. Mae 360 o seddi y tu fewn a chaiff ei reoli gan elusen. Mae'n un o 24 adeilad hynafol a geir ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.
Saif yr adeilad ar hen safle Tafarn y Gloch a rhoddwyd trwydded i'r theatr yn wreiddiol yn 1832. Yn 1850 galwyd hi'n "Ystafelloedd y Cynulliad" ac yn 1850 yn "Theatre Royal" dan reolaeth J F Rogers, a'r "Corn Exchange" ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Daeth dan berchnogaeth Gwesty'r Alarch Wen ar ddiwedd y 19g, pan ddefnyddiwyd yr adeilad fel maes llafnrolio. Yn 1910 agorwyd y lle'n sinema o'r enw "Living Picture Palace and Rinkeries". Yn 1912 newidiwyd yr enw i "Y Palas" ac yna i'r "Scala" a "Regent" yn ddiweddarach.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Keith Kissack, Monmouth and its Buildings (Logaston Press, 2003), tud. 142-4
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y theatr