Wicipedia:Deffro'r Ddraig
Croeso!
cystadleuaeth a golygathon ddwyieithog i wella erthyglau Wicipedia ar Gymru a materion Cymreig ym mis Ebrill 2016...
Gwobrwyon[golygu cod]Rhedir y gystadleuaeth â chyllideb o £250. Bydd tocynnau rhodd Amazon gwerth £100 yn cael eu rhoi i'r golygydd sy'n ennill y nifer fwyaf o bwyntiau yn y gystadleuaeth dros y mis. Bydd yr ail orau yn ennill tocynnau rhodd gwerth £50. Bydd y £100 sy'n weddill yn cael ei wario ar y gwobrwyon arbennig canlynol:
Cystadleuwyr a chyfraniadau at y gystadleuaeth[golygu cod]Rheolau a sgorio[golygu cod]
Erthyglau hanfodol[golygu cod]Erthyglau coll[golygu cod]Mae croeso i chi greu unrhyw erthygl sy'n ymwneud â Chymru ac sy'n ateb gofynion Wicipedia:Amlygrwydd. Rhaid fod gan erthyglau newydd leiafswm o 1.5 KB o ryddiaith (h.y. nid côd) er mwyn bod yn ddilys ar gyfer y gystadleuaeth. Gwobrwyir pwyntiau ychwanegol ar gyfer golygwyr sy'n dechrau erthygl sydd wedi'i restru ar y rhestr o erthyglau coll, a fydd yn nodi clystyrau o erthyglau sydd ar alw uchel i gael eu creu, er enghraifft adeiladau rhestredig, bywgraffiadau o bobl nodedig a.y.y.b. Gweler hefyd y rhestr gyffredinol o erthyglau coll yn y Saesneg. Ffotograffau[golygu cod]Gall golygwyr ennill pwyntiau pellach ar gyfer ychwanegu'r lluniau a geisir ar y rhestr ffotograffau coll. Golygathon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru[golygu cod]
Bydd y golygathon hwn, a gynhelir gan Jason Evans, yn rhedeg o 10:00 y.b. i 3:00 y.h. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 22 Ebrill 2016. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddefnyddio casgliad enfawr y Llyfrgell Genedlaethol o adnoddau ar-lein a materol. Bydd cinio rhad ac am ddim i'r cyfranogwyr, ond gofynir i chi ddod â'ch gliniadur eich hun! Os hoffech ddod i'r digwyddiad cofrestrwch fan hyn os gwlewch yn dda. Rydym yn annog cyfranogwyr nid yn unig i olygu yn y digwyddiad ar y dydd ond hefyd i gyfrannu at Wicipedia drwy gydol y mis ac yn fwy rheolaidd. Os oes gennych chi gwestiynau am ddod i'r digwyddiad neu am lyfrau, gofynnwch i Defnyddiwr:Jason.nlw am gymorth.
Mis Gwyddoniaeth a Merched[golygu cod]Ym mis Ebrill mae WikiProject Women in Red, prosiect ar y Wicipedia Saesneg a sefydlwyd er mwyn creu erthyglau coll am ferched, yn cynnal golygathon am Ferched a'r Gwyddorau. Rhoir ystyriaeth arbennig i'r golygwyr hynny sy'n cyfrannu erthyglau am ferched Cymreig yn ystod y mis. Erthyglau[golygu cod]Beirniaid[golygu cod]Dr. Blofeld fydd yn beirniadu'r gystadleuaeth. Cystadleuwyr a chyfranogwyr[golygu cod]Yn y gystadleuaeth[golygu cod]Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill hyd at £200 mewn tocynnau rhodd Amazon a llyfrau am Gymru. Yn y golygathon[golygu cod]Os nad yw cystadlaethau a gwobrwyon at eich dant, ond hoffech chi dal gyfrannu erthyglau am Gymru, cofrestrwch yma os gwelwch yn dda. Mae croeso i bawb! Contest award[golygu cod]
|