Pryse Loveden
Pryse Loveden | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1815 |
Bu farw | 31 Ionawr 1855 Gogerddan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Pryse Pryse |
Priod | Margaretta Jane Rice |
Plant | Carine Agnes Loveden, Sir Pryse Loveden, 1st Bt. |
Roedd Pryse Loveden (ganwyd Pryse Pryse; 1 Mehefin 1815 – 1 Chwefror 1855) [1] yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberteifi rhwng 1849 a’i farwolaeth ym 1855.[2]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Loveden yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn fab hynaf i Pryse Pryse, ei ragflaenydd fel AS Aberteifi, a Jane, ferch Peter Cavallier o Cleveland, Swydd Efrog; ei ail wraig. Gwasanaethodd ail fab Pryse Pryse (brawd Pryse Loveden), Edward Lewis Pryse fel AS Aberteifi o 1857 i 1868.
Roedd Pryse Pryse yr hynaf yn fab i Edward Loveden Loveden a Margaret Pryse, merch Lewis Pryse Gogerddan; etifeddodd ystâd Gogerddan gan ei nain ym 1798 a newidiodd ei gyfenw i Pryse. Ym 1849 etifeddodd Pryse Pryse yr ieuengaf ystadau ei daid tadol, Edward Loveden, yn Berkshire, gan newid ei gyfenw yn ôl i Loveden[3]
Priododd Margaret Jane merch Walter Rice, Llwyn y Brain, Sir Gaerfyrddin ar 14 Medi 1836. Bu iddynt un mab a dwy ferch. Ei fab oedd Syr Pryse Pryse, barwnig cyntaf Gogerddan o’r ail greadigaeth[4].
Arestiwyd Pryse Loveden yn Llundain ym mis Mehefin 1854 am fod yn feddw ac yn siarad â "Westminster Girl" (putain a lleidr)ym Mhiccadilly. Dirwywyd 5s. ond diddymwyd y ddirwy ar ôl iddo roi 10s. yn y 'poor box'. Doedd dim sôn am yr achos ym mhapurau Swydd Aberteifi.[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd yn dirfeddiannwr ar ystadau Buscot a Eaton Hastings, Berkshire, ystâd Gogerddan, Ceredigion a thiroedd yn Woodstock, Swydd Rydychen ac Inglesham, Wiltshire.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd Loveden yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Ceredigion a achoswyd gan farwolaeth ei dad ym 1849. Enillodd yr isetholiad gan gadw’r sedd hyd ei farwolaeth ef ym 1855
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Llundain yn 39 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn eglwys Llanbadarn Fawr.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Deaths of Note yn y Monmouthshire Merlin 16 Chwefror 1855 adalwyd 23 Awst 2017
- ↑ "Dod's Parliamentary Companion 1852". archive.org. 1852. Cyrchwyd 23 Awst 2017.
- ↑ Pryse of Plas Gogerddan an old Ceredigion family[dolen farw] adalwyd 23 Awst 2017
- ↑ Nicholas, Thomas Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct familiesAnnals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct families adalwyd 23 Awst 2017
- ↑ Pembrokeshire Herald and General Advertiser, 30 Mehefin 1854, tud. 2
- ↑ "CARDIGANSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1855-02-09. Cyrchwyd 2017-08-23.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Pryse Pryse |
Aelod Seneddol Aberteifi 1849 – 1855 |
Olynydd: John Lloyd Davies |