Seithenyn
Roedd Seithenyn yn arglwydd a gysylltir â Chantre'r Gwaelod, yr ardal ym Mae Ceredigion (mewn rhai fersiynau mae'r lleoliad yn wahanol) a foddwyd gan y môr yn y 6g, yn ôl traddodiad llên gwerin.
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau Tudno a Gwynhoedl.
Yn ôl un fersiwn o'r chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys Gwyddno Garanhir. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun.
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd Boddi Maes Gwyddneu yn Llyfr Du Caerfyrddin. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchymyn i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Yn fersiwn Llyfr Du Caerfyrddin o'r chwedl nid Seithenyn sy'n cael y bai am adael y môr i mewn, ond merch o'r enw Mererid.
Boddi Maes Gwyddno: Cymraeg Modern | Boddi Maes Gwyddneu: Ffurf wreiddiol |
Seithennin, saf di allan ac edrycha ar ferw'r môr: Maes Gwyddno a'i orchuddwyd |
Seithenhin saw de allan. ac edrychuir de varanres mor. maes guitnev rytoes. |
Boed felltigedig y forwyn a'i gollyngodd wedi gwledd tywalltwr ffynnon garw'r môr |
Boed emendiceid y morvin ae hellygaut guydi cvin. finaun wenestir mor terruin. |
Boed felltigedig y ferch a'i gollyngodd wedi'r frwydr tywalltwr ffynnon y môr diffaith. |
Boed emendiceid y vachteith. ae. golligaut guydi gueith. finaun. wenestir mor diffeith |
Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer at Dduw y'i cyfeirir. arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder. |
Diaspad vererid y ar vann caer. hid ar duu y dodir. gnaud guydi traha trangc hir. |
Gwaedd Mererid oddi ar uchelfan y gaer heddiw; hyd at Dduw ei hymbil. edifeirwch sy'n arferol yn sgîl balchder. |
Diaspad mererid. y ar. van kaer hetiv. hid ar duu y dadoluch. gnaud guydi traha attreguch. |
Gwaedd Mererid sy'n fy nghyffroi heno, ac ni hwylusa (unrhyw) lwyddiant i mi. cwymp sy'n yn arferol yn sgîl balchder. |
Diaspad mererid. am gorchiut heno. Ac nihaut gorlluit. G. G. traha tramguit. |
Gwaedd Mererid oddi ar gefn ceffyl gwinau hardd; Duw hael a'i gwnaeth. cyflwr anghenus sy'n arferol yn sgîl gormodedd |
Diaspad mererid y ar gwinev kadir kedaul duv ae gorev. gnaud guydi gormot eissev. |
Gwaedd Mererid sy'n fy ngorfodi heno oddi wrth f'ystafell. mae tranc pell yn arferol yn sgîl balchder. |
Diaspad mererid. am kymhell heno y urth uy istauell. gnaud guydi traha trangc pell. |
Bedd Seithennin aruchel ei feddwl rhwng Caer Genedr a glan y môr: arweinydd mor ardderchog (ydoedd) |
Bet seithenhin synhuir vann Rug kaer kenedir a glan. mor maurhidic a kinran. |
Ar ddiwedd Llyfr Du Caerfyrddin ceir un o Englynion y Beddau (orgraff ddiweddar):
- Bedd Seithenyn, synhwyr wan,
- Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr;
- Mawrhyddig o gynran.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- A.O.H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982)
- F.J. North, Sunken Cities (Caerdydd, 1957)