Santes Cynheiddon
Santes Cynheiddon | |
---|---|
Ganwyd | Teyrnas Brycheiniog |
Man preswyl | Cydweli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 5 g |
Tad | Brychan |
Plant | Cymorth |
Santes oedd Cynheiddon ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]
Cymysgu enwau
[golygu | golygu cod]Bu gan dair o ferched Brychan, Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon [1] (neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor ac (ambell waith) Ciwa. Cymysgir nhw hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint fel nad oes modd eu gwahanu'n llwyr. Aeth Ceinwen a Canna i Fôn a cysylltir Cain gyda de-ddwyrain Cymru yn bennaf [2].
De-orllewin Cymru
[golygu | golygu cod]Roedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna), fodd bynnag, yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal Cydweli, ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda Cymorth, a oedd yn ferch neu'n nith iddi.[1][2] Cysylltir hi hefyd gyda Llangain ger aber afon Tywi.[2]
Sedd Canna
[golygu | golygu cod]Yn ymyl Llangain mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yno a bod y dŵr yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Arferai'r claf daflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y gadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y driniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y 19g ac mae'r ysgrifen ar y gadair yn amheus ond dywedir fod pant yn y garreg wedi'i greu gan y nifer o gleifion a oedd wedi eistedd arni.[2]
Cysegriadau
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg fod Llangennech, ger aber yr afon Llwchwr, Llangain ar yr afon Tywi a Llangeinor a Llangan ger Penybont i gyd wedi'u cysegru iddi. Cysylltir hi hefyd gyda Phontcanna a Threganna yng Nghaerdydd ond mae'r llefydd hyn hefyd wedi'u cysylltu gyda'i chwiorydd.