[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Michel Barnier

Oddi ar Wicipedia
Michel Barnier
Ganwyd9 Ionawr 1951 Edit this on Wikidata
La Tronche Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddComisiynydd Ewropeaidd dros y Farchnad Fewnol, Gweinidog Tramor Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Sénat Ffrainc, Aelod o'r Cyngor Cyffredinol, Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Polisi Rhanbarthol, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod Senedd Ewrop, Gweinidog Amaeth a Physgodfeydd, Prif Weinidog Ffrainc Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUndeb ar gyfer Mudiad Poblogaidd, Rassemblement pour la République, Les Républicains Edit this on Wikidata
TadJean Barnier Edit this on Wikidata
MamDenise Barnier Edit this on Wikidata
PriodIsabelle Altmayer Edit this on Wikidata
PlantNicolas Barnier Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Cadlywydd Urdd Amaethyddiaeth Teilwng, Gwobr Robert Schuman, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Aur yr Olympiad, Commander of the Order of Maritime Merit, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Cross pro Merito Melitensi, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Grand Cross of the Order of the Star of Romania, Marchog Urdd Orange-Nassau Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Ffrainc yw Michel Bernard Barnier (ganwyd yn La Tronche, Ffrainc, 9 Ionawr 1951) sydd wedi dal amryw o swyddi yn yr Undeb Ewropeaidd. Penododd Emmanuel Macron ef yn brif weinidog Gweriniaeth Ffrainc ar Fedi 5, 2024[1].

Bu'n aelod o wahanol bleidiau yn nhraddodiad Charles de Gaulle (UDR, RR, UMP a Les Républicains). Bu'n rhan o Llywodraeth Ffrainc droeon, fel Gweinidog yr Amgylchedd rhwng 1993 ac 1995, Gweinidog Materion Ewropeaidd rhwng 1995 ac 1997, Gweinidog Materion Tramor rhwng 2004 a 2005 ac fel Gweinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd Rhwng 2007 a 2009.

O fewn yr Undeb Ewropeaidd, roedd Barnier yn Gomisiynydd Ewropeaidd ar gyfer y Farchnad a Gwasanaethau Mewnol rhwng 2010 a 2014 ac yn Is-lywydd Plaid Pobl Ewrop rhwng 2010 a 2015. Rhwng mis Hydref 2016 a mis Tachwedd 2019 ef oedd y Prif Drafodwr a benodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ym maes Brexit (Task Force 50/TF50), ac o 2019 i 2021 roedd yn gyfrifol am Gysylltiadau’r Comisiwn Ewropeaidd â’r Deyrnas Unedig (UKTF)[2][3].

Yn 2021, dywedodd Barnier y byddai’n sefyll i fod yn arlywydd Ffrainc yn etholiadau arlywyddol Ffrainc 2022, ond ni chafodd gefnogaeth yng nghyngres 2021 a gynhaliwyd gan y blaid geidwadol Les Républicains[4].

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Barnier yn La Tronche, tref ar gyrion Grenoble. Fe'i etholwyd i Senedd Ffrainc am y tro cyntaf yn 1978, gan gynrychioli Savoie. Ac yntau'n 27 mlwydd oed ar y pryd, ef oedd yr aelod seneddol ieuengaf.

Safbwyntiau gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Ers ei ymgais aflwyddiannus i gael ei ethol yn arlywydd yn 2021, mae Barnier wedi mynegi safbwyntiau fwyfwy asgell dde. Dywedodd ei fod am "roi stop ar mewnfudo o'r tu hwnt i Ewrop o fewn 3 i 5 mlynedd".[5][6] Dywedodd hefyd ei fod am i droseddwyr cael eu hatal o'r wlad, ei fod am gyfyngu ar hawl pobl i fudo i fod gyda'u teuluoedd, a derbyn llai o fyfyrwyr o dramor.[5] Wrth gael ei ethol yn Brif Weinidog yn 2024, dywedodd eto bod "rheoli mewnfudo" yn brif flaenoriaeth iddo.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Emmanuel Macronek Michel Barnier izendatu du Frantziako lehen ministro" (yn eu), Berria, 2024-09-05, https://www.berria.eus/mundua/emmanuel-macronek-michel-barnier-izendatu-du-frantziako-lehen-ministro_2130137_102.html
  2. "Language selection | Représentation au Luxembourg" (yn fr), luxembourg.representation.ec.europa.eu, https://luxembourg.representation.ec.europa.eu/select-language?destination=/node/1
  3. "Michel Barnier set to lead ‘UK Task Force’ in Brexit phase II" (yn en-GB), POLITICO, 2019-10-21, https://www.politico.eu/article/michel-barnier-set-to-lead-uk-task-force-in-brexit-phase-ii/
  4. (yn en-GB) French presidency: Michel Barnier joins race 'to change France', 2021-08-27, https://www.bbc.com/news/world-europe-58354886
  5. 5.0 5.1 "Économie, sécurité, immigration... Le programme des 5 candidats à l'investiture LR". BFMTV (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2024-09-22.
  6. "Macron appoints conservative Michel Barnier as prime minister" (yn Saesneg). 2024-09-05. Cyrchwyd 2024-09-22.
  7. "Macron appoints conservative Michel Barnier as prime minister" (yn Saesneg). 2024-09-05. Cyrchwyd 2024-09-22.