[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Mark Zuckerberg

Oddi ar Wicipedia
Mark Zuckerberg
Mark Zuckerberg yn 2019.
Ganwyd14 Mai 1984 Edit this on Wikidata
White Plains Edit this on Wikidata
Man preswylPalo Alto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Harvard
  • Phillips Exeter Academy
  • Ardsley High School
  • Johns Hopkins Center for Talented Youth
  • Mercy University
  • Coleg Meddygol Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglennwr, entrepreneur, gwyddonydd cyfrifiadurol, noddwr y celfyddydau, prif weithredwr, dyngarwr Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Meta Platforms Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
TadEdward Zuckerberg Edit this on Wikidata
MamKaren Kempner Edit this on Wikidata
PriodPriscilla Chan Edit this on Wikidata
PlantMaxima Zuckerberg, August Chan Zuckerberg, Aurelia Chan Zuckerberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auNeuadd Enwogion California, Time Person of the Year, Axel Springer Award, BigBrotherAwards, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard Edit this on Wikidata
llofnod

Dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw Mark Elliot Zuckerberg (ganed 14 Mai 1984) sydd yn nodedig am gydsefydlu Facebook, un o brif wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol y byd. Gwasanaetho yn gadeirydd, prif weithredwr, a chyfranddaliwr rheolaethol Facebook, Inc.[1][2] Mae Zuckerberg hefyd yn un o gydsefydlwyr ac yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Breakthrough Starshot, prosiect i ddatblygu cerbydau gofod gan ddefnyddio hwyliau'r haul.[3]

Ganed ef yn White Plains, Efrog Newydd, i deulu Iddewig. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Harvard yn 2002, ac yno lansiodd y wefan Facebook yn ei ystafell fyfyriwr yn Chwefror 2004 gyda'i gydletywyr Eduardo Saverin, Andrew McCollum, Dustin Moskovitz, a Chris Hughes. Cynigwyd gwasanaeth Facebook i ambell gampws prifysgol ar y cychwyn, ac yn fuan tyfodd y wefan nes iddi fod yn agored i'r cyhoedd ar draws y byd, a chyrhaeddodd biliwn o ddefnyddwyr erbyn 2012. Yn 2007, yn oed 23, Zuckerberg oedd y biliwnydd ieuaf a wnaeth ei ffortiwn ei hun yn y byd. Aeth yn gwmni cyhoeddus ym Mai 2012, a Zuckerberg yn berchen ar fwyafrif y cyfranddaliadau. Yn Hydref 2021, roedd ganddo werth net o $122 biliwn,[4] a safle'r pumed ar restr pobl gyfoethoca'r byd, yn ôl cyfrif Bloomberg.[4]

Ers 2008, mae Time wedi cynnwys Zuckerberg ymhlith ei restr o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol yn y byd, a chafodd ei enwi yn Berson y Flwyddyn gan yr un cylchgrawn yn 2010.[5][6][7] Yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Zuckerberg safle rhif 10 ar restr Forbes o "Bobl Fwyaf Pwerus y Byd".[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Napach, Bernice (26 Gorffennaf 2013). "Facebook Surges and Mark Zuckerberg Pockets $3.8 Billion". Yahoo! Finance.
  2. Hiltzik, Michael (20 Mai 2012). "Facebook shareholders are wedded to the whims of Mark Zuckerberg". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Rhagfyr 2017.
  3. Lee, Seung (13 Ebrill 2016). "Mark Zuckerberg just joined a new project to explore the universe faster". Newsweek (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2020.
  4. 4.0 4.1 "Bloomberg Billionaires Index: Mark Zuckerberg". Bloomberg L.P. Cyrchwyd 5 Hydref 2021. Cite magazine requires |magazine= (help)
  5. "Mark Zuckerberg". Forbes.
  6. Grossman, Lev (15 Rhagfyr 2010). "Person of the Year 2010: Mark Zuckerberg". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Awst 2013.
  7. "The All-Time TIME 100 of All Time". Time. 18 Ebrill 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2012. Cyrchwyd 20 Ebrill 2012.
  8. "The World's Most Powerful People". Forbes. Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2016.