[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Maina cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Maina cyffredin
Acridotheres tristis

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Sturnidae
Genws: Acridotheres[*]
Rhywogaeth: Acridotheres tristis
Enw deuenwol
Acridotheres tristis
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Maina cyffredin (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: mainaod cyffredin) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Acridotheres tristis; yr enw Saesneg arno yw Common mynah. Mae'n perthyn i deulu'r Adar Drudwy (Lladin: Sturnidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. tristis, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r maina cyffredin neu maina Indiaidd (Acridotheres tristis), sydd weithiau'n cael ei sillafu mynah, yn aderyn yn y teulu Sturnidae (drudwennod), sy'n frodorol i Asia . Yn aderyn coetir agored hollysol gyda greddf diriogaethol gref, mae'r myna cyffredin wedi addasu'n arbennig o dda i amgylcheddau trefol.

Mae cyrhaeddiad y myna cyffredin yn cynyddu mor gyflym nes i Gomisiwn Goroesi Rhywogaethau'r IUCN ddatgan yn 2000 ei fod yn un o rywogaethau mwyaf ymledol y byd ac yn un o ddim ond tri aderyn a restrir ymhlith "100 o Rywogaethau Ymledol Gwaethaf y Byd" sy'n achosi bygythiad i fioamrywiaeth, amaethyddiaeth a buddiannau dynol. Yn benodol, mae'r rhywogaeth yn fygythiad difrifol i ecosystemau Awstralia, lle cafodd ei henwi "Y Pla / Problem Pwysicaf" yn 2008."[3]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae'n hawdd adnabod y myna cyffredin wrth ei gorff brown, y pen â chwfl du a'r darn melyn noeth y tu ôl i'r llygad. Mae'r pig a'r coesau yn felyn llachar. Mae darn gwyn ar y plu allanol ac mae leinin yr adenydd ar yr ochr isaf yn wyn. Mae'r ddau ryw yn debyg ac fel arfer gwelir adar mewn parau.

Perched on a tree

Mae'r myna cyffredin yn ufuddhau i Reol Gloger yn yr ystyr bod adar gogledd-orllewin India yn tueddu i fod yn oleuach na'u cymheiriaid tywyllach yn ne India.

Mae'r galwadau'n cynnwys crawcian, gwawchian, trydar, clician, chwibanau a 'gruddfan', ac mae'r aderyn yn aml yn fflwffio'i blu ac yn siglo'i ben wrth ganu. Mae'r maina cyffredin yn sgrechian rhybuddion i'w gymar neu adar eraill pan fo ysglyfaethwyr yn agos neu pan fydd ar fin cychwyn hedfan. Mae mainas cyffredin yn boblogaidd fel adar cawell am eu galluoedd canu a "siarad". Cyn cysgu mewn clwydi cymunedol, mae nhw'n lleisio'n unsain, lleisio a elwir yn "sŵn cymunedol".

Cyrhaeddiad a chynefin

[golygu | golygu cod]

Mae'r maina cyffredin yn frodorol i Asia , gyda'i amrediad cartref cychwynnol yn rhychwantu Iran, Pacistan, India, Nepal, Bhutan, Bangladesh a Sri Lanca, Afghanistan, Uzbekistan, Tajikistan, Turkmenistan, Myanmar, Malaysia, Singapôr, penrhyn Gwlad Thai, Indochina, Japan (y ddau dir mawr ac Ynysoedd Ryukyu) a Tsieina.[4]

Mae'r maina cyffredin wedi'i gyflwyno i lawer o rannau eraill o'r byd megis Canada, Awstralia, Israel, Seland Newydd, Caledonia Newydd, Fiji , yrUnol Daleithiau (de Florida yn unig[5]), De Affrica, Kazakhstan, Kyrgyzstan Uzbekistan, yr Ynysoedd Cayman, ynysoedd yng nghefnfor India (y Seychelles, Mauritiws, Réunion, Madagascar, Maldives, Ynysoedd Andaman a Nicobar a'r archipelago Lakshadweep) a hefyd yn ynysoedd Iwerydd (megis Ynys y Dyrchafael a Saint Helena), Cefnfor Tawel a Cyprus Chwefror 2022. Mae cyrhaeddiad y maina cyffredin yn cynyddu i'r graddau ei fod, yn y flwyddyn 2000, yn ôl yr IUCN Species Survival Commission ymhlith y 100 o rhywogaethau ymledol gwaethaf y byd.

Fe'i darganfyddir yn nodweddiadol mewn coetir agored, tir amaeth ac o amgylch trigfannau. Mae'n rhywogaeth sydd â'r gallu i addasu i wahanol gynefinoedd, i'r graddau bod ei phoblogaeth bellach yn annormal ac yn cael ei hystyried yn bla yn Singapore (lle mae'n cael ei alw'n lleol fel gembala kerbau, yn llythrennol yn 'fugail y byffalo') oherwydd cystadleuaeth â maina Jafa Acridotheres javanicus.

Mae'r maina cyffredin yn perthyn i deulu'r Adar Drudwy (Lladin: Sturnidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Drudwen Hildebrandt Lamprotornis hildebrandti
Drudwen Micronesia Aplonis opaca
Drudwen amethyst Cinnyricinclus leucogaster
Drudwen ddisglair Aplonis metallica
Drudwen loyw Burchell Lamprotornis australis
Drudwen loyw Meves Lamprotornis mevesii
Drudwen loyw glustlas fawr Lamprotornis chalybaeus
Drudwen loyw wych Lamprotornis superbus
Drudwen lwyd Lamprotornis unicolor
Drudwen y Philipinau Aplonis panayensis
Maina Mynydd Apo Goodfellowia miranda
Maina wynebfelyn Mino dumontii
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Statws

[golygu | golygu cod]

Mae'r maina cyffredin yn ymledu ar y fath raddfa fe ddatgannodd yr Comisiwn Goroesi Rhywogaethau yr IUCN yn 2000 ei fod yn un o rywogaethau mwyaf ymledol y byd, ac yn un o dair rhywogaeth aderyn yn unig, yn 100 mwyaf ymledol, i fygwth niwed i fioamrywiaith, amaeth a buddiannau dynol. Yn Awstralia yn arbennig mae'n fygythiad difrifol i'w ecosystemau - fe'i henwyd yno "Y Prif Bla/Problem"[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. ABC Wildwatch". Abc.net.au. Archived from the original on 2012-11-09. Retrieved 2012-08-07
  4. "Common Myna". Cyrchwyd Rhagfyr 23, 2007.
  5. org/field-guide/bird/common-myna "Common Myna - Audubon Field Guide" Check |url= value (help). Audubon. 2014-11-13. Cyrchwyd 2 Mawrth 2016.[dolen farw]
  6. "ABC Wildwatch". Abc.net.au. Archived from the original on 2012-11-09. Retrieved 2012-08-07
Safonwyd yr enw Maina cyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.