M'Goun
Gwedd
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tinghir Province |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 4,068 metr |
Cyfesurynnau | 31.51°N 6.44°W |
Amlygrwydd | 1,974 metr |
Cadwyn fynydd | Atlas Uchel |
Mynydd yn yr Atlas Uchel ym Moroco yw M'Goun (4,071 m), a adnabyddir wrth sawl enw, yn cynnwys Ighil M'Goun, Ighil n'Oumsoud, Irhil M'Goun, Jebel M'goun, a Djebel Aït M'goun. Dyma'r copa trydydd uchaf ym Moroco ar ôl Jebel Toubkal (4,167 m) ac Ouanoukrim (4,088 m). Mae'n gorwedd yng nghanolbarth Moroco, yn nhalaith Ouarzazate yn rhanbarth gweinyddol Souss-Massa-Draâ.
Dydy M'Goun ddim yn fynydd sy'n denu llawer o ddringwyr mewn cymhariaeth â Toubkal, ond mae'n bosibl ei ddringo o sawl cyfeiriad gyda dinas Azilal, i'r gorllewin, yn fan cychwyn poblogaidd.
Mae crib uchel y mynydd yn ymestyn am tua 10 km.