Los Blancos (band)
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Genre | cerddoriaeth roc |
Grŵp Cymraeg o ardal Caerfyrddin yw Los Blancos. Maent wedi rhyddhau dau albwm. Roedd iddynt bedwar aelod yn wreiddiol ond cynyddodd hynny i bump bellach. Los Blancos yw llysenw clwb pêl-droed Real Madrid. Ceir hefyd artist Sbaeneg ei iaith o'r enw 'Los Blancos'.
Arddull Gerddorol
[golygu | golygu cod]Dywedir bod eu cerddoriaeth yn adlewyrchu seiniau grwpiau Saesneg fel Husker Dü a'r Jesus and Mary Chain cynnar, yn enwedig caneuon fel Dilyn Iesu Grist. Ysgrifennwyd bod cân Cadw Fi Lan gyda'i canu breuddwydiol a rhyddm igam-ogam yn awgrym o'r Velvet Underground a'r Wedding Present.[1]
Aelodau
[golygu | golygu cod]Mae pump aelod i'r band:[2]
- Gwyn - canu
- Emyr - gitâr drydan
- Cian
- Dewi
- Osian - drymiau
Recordiau
[golygu | golygu cod]Sbwriel Gwyn
[golygu | golygu cod]Albwm cyntaf Los Blancos, Sbwriel Gwyn, yw’r diweddaraf o don o albymau anhygoel i ddod gan label Recordiau Libertino. Mae’r record yma gan y pedwarawd o Gaerfyrddin yn gymysgedd o senglau adnabyddus y grŵp, fel ‘Cadw Fi Lan’ a ‘Clarach,’ a chynnyrch newydd roedd eisoes yn ffefrynnau mewn gigs. Mae egni amrwd byw'r band yn cael ei amlygu drwy gydol yr albwm diolch i gynhyrchu Kris Jenkins. Heb amheuaeth mae’r record yma wedi sicrhau lle Los Blancos fel un o brif fandiau’r sîn.[3] Enwebwyd yr albwm ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.[4] Record Sbwriel Gwyn.[5]
Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig[6] yn 2021 a'i rhyddhau ar lwyfannau ffrydio megis Spotify.[7] Nid yw'r albwm yn cynnwys "caneuon traddodiadaol Cymreig" ond yn hytrach pump o ganeuon sydd wedi eu hysgrifennu gan y band gan gynnwys 5 cân gan bob un aelod unigol o'r band. Ysgrifennwyd a recordiwyd yr albwm yn ystod y Cyfnod Clo haint Covid-19 yn 2020-21 wrth i'r band ddisgwyl i fynd yn ôl i'r stiwdio i recordio.[8] Mae swn miwsig 'indi' yr 1990au.[9] Cynhyrchwyd y caneuon gan Kris Jenkins.[10]
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Sbwriel Gwyn Cyhoeddi yn 2019; Label - Label Libertino
- Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig, Cyhoeddi yn 2021; Label - hunangyhoeddwyd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.godisinthetvzine.co.uk/2019/11/26/introducing-los-blancos/
- ↑ https://twitter.com/blancoslos502/status/1433722465029664770/photo/1
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-04. Cyrchwyd 2021-09-04.
- ↑ https://americymru.net/ceri-shaw/blog/5416/los-blancos-ep-newydd-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-allan-nawr-ep-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-ou
- ↑ https://www.libertinorecords.com/product-page/sbwriel-gwyn-los-blancos-pre-order
- ↑ https://album.link/i/1577413857
- ↑ https://open.spotify.com/album/56vBBHhTBr3v7V0nRVhNLi
- ↑ https://twitter.com/blancoslos502/status/1433722465029664770/photo/1
- ↑ https://theindyreview.com/2021/09/01/world-watch-los-blancos/
- ↑ https://americymru.net/ceri-shaw/blog/5416/los-blancos-ep-newydd-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-allan-nawr-ep-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-ou