Orgraff y Gymraeg
Cymraeg |
---|
WiciBrosiect Cymru |
Ysgrifennir yr iaith Gymraeg yn yr wyddor Gymraeg, ac mae orgraff y Gymraeg yn seiliedig ar gonfensiynau orgraffyddol a ddatblygwyd yn y 19g. Ar ddechrau'r ganrif honno, bu cryn dryswch ac anghytuno ynghylch ysgrifennu'r iaith, yn bennaf o ganlyniad i gamgymeriadau'r gramadegydd a geiriadurwr William Owen Pughe. Ni chafodd sillafu'r Gymraeg ei safoni nes cyhoeddiad Orgraff yr Iaith Gymraeg yn 1859 gan Gweirydd ap Rhys a Thomas Stephens. Anghytunodd ambell un â'r diwygiadau, er enghraifft D. Silvan Evans yn ei Llythyraeth yr Iaith Gymraeg (1861). Fodd bynnag, adeiladodd sawl ysgolhaig ar seiliau'r orgraff ddiwygiedig, yn eu plith John Rhŷs. Cytunwyd ar feini prawf ychwanegol gan Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen yn 1888, a chyhoeddwyd cylchgronau yn yr orgraff hon, gan gynnwys Y Traethodydd a Cymru. Ehangwyd ar yr argymhellion hyn gan gyd-bwyllgor Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda gwaith John Rhŷs, Thomas Powel, J. E. Lloyd, a John Morris-Jones, ond bu ychydig mwy o wrthwynebiad i gasgliadau'r adroddiad a gyhoeddwyd ganddynt. Cadarnhawyd orgraff fodern y Gymraeg gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928).[1]
Yr wyddor Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Prif: Yr wyddor Gymraeg
Ffurf ar yr wyddor Ladin a ddefnyddir i ysgrifennu'r iaith Gymraeg yn y cyfnod modern yw'r wyddor Gymraeg. Yn ôl traddodiad, mae ganddi 28 o lythrennau, fel a ganlyn:
Priflythrennau | |||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
A | B | C | Ch | D | Dd | E | F | Ff | G | Ng | H | I | L | Ll | M | N | O | P | Ph | R | Rh | S | T | Th | U | W | Y |
Llythrennau bychain | |||||||||||||||||||||||||||
a | b | c | ch | d | dd | e | f | ff | g | ng | h | i | l | ll | m | n | o | p | ph | r | rh | s | t | th | u | w | y |
Fodd bynnag, erbyn heddiw mae j yn cael ei ddefnyddio ym mhob geiriadur modern ar gyfer geiriau benthyg o'r Saesneg.
Mae a, e, i, o, u, w, y yn llafariaid. Gall i ac w fod yn gytseiniaid hefyd megis yn iâ neu galwad.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Am ragarweiniad i hanes yr wyddor Gymraeg yn y cyfnod modern, o oes y Dadeni ymlaen, ynghyd â'r rheolau sillafu safonol a dderbynir heddiw, gweler:
- Orgraff yr Iaith Gymraeg: Adroddiad Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
Am grynodeb cynhwysfawr o gonfensiynau sillafu modern, gweler:
- Atodiad IV, "Yr Orgraff", yn Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1996), tt.747–798
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), s.v. "Orgraff y Gymraeg"