Hawliau Pobl Frodorol Rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad hawliau dynol |
---|---|
Gwefan | https://iprights.org/ |
Sefydliad byd-eang, dielw yw Hawliau Pobl Frodorol Rhyngwladol (Indigenous Peoples Rights International; IPRI) sy'n gweithio i amddiffyn amddiffynwyr sy'n ymladd dros hawliau pobl frodorol; mae'r mudiad yn galw am gyfiawnder a pharch at hawliau pobl frodorol.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Fe'i sefydlwyd yn 2019 i fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang cynyddol o'r trais yn erbyn arweinwyr brodorol gan gynnwys carcharu amddiffynwyr tir oherwydd cyhuddiadau ffug, lladd, dadleoli, bachu tir, a throseddau hawliau dynol eraill.[2]
Mae IPRI yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cyfarwyddwyr, sy'n cynnwys nifer o bobl o dreftadaeth frodorol o sawl gwlad wahanol, gan gynnwys Canada, Awstralia, Sweden, Kenya, Colombia, y Philipinau, Rwsia ac Indonesia. Rheolir y sefydliad o ddydd i ddydd gan yr Ysgrifenyddiaeth Fyd-eang (Global Secretariat)[1]
Cyn Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig (CU) ar Hawliau Pobl Gynhenid, Victoria Tauli Corpuz,[3] a Dyfarnwr Pencampwyr y Ddaear y Cenhedloedd Unedig, Joan Carling, [4] oedd prif sefydlwyr yr IPRI.[2] Mae'r gwleidydd Mónica Chuji (o Ecwador) yn ddirprwy gyfarwyddwry sefydliad.[5]
Gweithgareddau
[golygu | golygu cod]Mae IPRI yn arwain y Fenter Fyd-eang i Fynd i'r Afael â Throseddu, Trais ac Iawndal yn Erbyn Pobl Frodorol, gyda ffocws yr IPRI ar gynnal hawliau pobl frodorol ym myd busnes, lleihau troseddoli hawliau pobl frodorol a lleihau'r nifer y pobl frodorol sy'n cael eu carcharu, gan gynnwys menywod a phlant. Mae IPRI yn cefnogi symudiad tuag at ddiwygio cenedlaethol a mecanweithiau gorfodi rhyngwladol, sydd eu hangen i sicrhau bod hawl pobl frodorol i fyw ar eu tir, ac amddiffyn eu tir yn cdigwydd.[6] Mae'r prif ffocws ar chwe gwlad lle mae trais yn erbyn pobloedd brodorol yn arbennig o ddifrifol: Brasil, Colombia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, India, Mecsico a'r Philipinau.[7]
Mae IPRI yn gweithio i:
- Ddod â sylw byd-eang i faterion lleol.
- Gynnal gweithgareddau ar y cyd â phobl frodorol a sefydliadau hawliau dynol i fynd i'r afael â'r sefyllfa o droseddoli a chosb ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang.
- Rwydweithio a phartneru â sefydliadau a chynghreiriau pobl frodorol a sefydliadau hawliau dynol perthnasol.[8]
- Ddatblygu deunyddiau eiriolaeth, gan gynnwys crynodebau, i wella'r ymwybyddiaeth o Hawliau Pobl Frodorol.[7]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Adroddiad Blynyddol ar Droseddoli, Trais, ac Iawndal yn erbyn Pobl Frodorol, 27 Ebrill 2022 Archifwyd 2022-06-02 yn y Peiriant Wayback
- Crynodeb - Cynnal Hawliau Pobl Frodorol - Deddfwriaeth a Chyfreitheg: Datblygiadau Byd-eang, Rhanbarthol a Chenedlaethol, 27 Ebrill 2022 Archifwyd 2022-07-06 yn y Peiriant Wayback
- Briff: UNGPs a diogelu hawliau Pobl Frodorol yng nghyd-destun gweithrediadau busnes, 25 Ebrill 2022 Archifwyd 2022-06-01 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Indigenous Peoples Rights International". Indigenous Peoples Rights International. Cyrchwyd 10 May 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "Launching of the Indigenous Peoples Rights International-IPRI" (PDF). University of New South Wales. Cyrchwyd 10 May 2022.
- ↑ "Special Rapporteur on the rights of indigenous peoples". United Nations. Cyrchwyd 10 May 2022.
- ↑ "Joan Carling is the winner of the Champions of the Earth Award, for lifetime achievement". UNEP. Cyrchwyd 10 May 2022.
- ↑ "Ecuador: Entrevista a Mónica Chuji sobre derechos de la naturaleza". Indymedia Argentina Centro de Medios Independientes (( i )) (yn Sbaeneg). 2022-08-09. Cyrchwyd 2022-08-11.
- ↑ "Indigenous Endorois fight for their land and rights at UN". Grist. Cyrchwyd 10 May 2022.
- ↑ 7.0 7.1 "Brochure - About IPRI" (PDF). Indigenous Peoples Rights International. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-04-19. Cyrchwyd 10 May 2022."Brochure - About IPRI" Archifwyd 2022-04-19 yn y Peiriant Wayback (PDF). Indigenous Peoples Rights International. Retrieved 10 May 2022.
- ↑ "Indigenous Peoples Rights International (IPRI)". ESCR-Net. Cyrchwyd 10 May 2022.