Giorgio Tozzi
Giorgio Tozzi | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1923 Chicago |
Bu farw | 30 Mai 2011 Bloomington |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, canwr opera, athro cerdd |
Cyflogwr |
|
Math o lais | bas |
Priod | Monte Amundsen |
Roedd Giorgio Tozzi (8 Ionawr 1923 - 30 Mai 2011) yn faswr operatig Americanaidd. Roedd yn un o'r prif berfformwyr am flynyddoedd lawer gyda'r Metropolitan Opera, Dinas Efrog Newydd ac wedi canu'r prif rolau bas ym mron pob tŷ opera mawr ledled y byd.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed George John Tozzi yn Chicago, Illinois. Astudiodd ym Mhrifysgol DePaul gyda Rosa Raisa, Giacomo Rimini a John Daggett Howell. Yn ddiweddarach astudiodd ganu yn Ninas Efrog Newydd gyda Beverley Peck Johnson.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gwnaeth ei début proffesiynol yng nghynhyrchiad Broadway o The Rape of Lucretia gan Benjamin Britten ym 1948 fel Tarquinius.[3] Roedd ei rolau amlwg yn cynnwys Figaro yn Le nozze di Figaro gan Mozart, Felipe II, brenin Sbaen yn Don Carlos Verdi, Hans Sachs yn Die Meistersinger von Nürnberg Wagner, a Méphistophélès yn Faust, Charles Gounod.
Ym 1957, portreadodd rôl y teitl mewn perfformiad a ddarlledwyd ar draws yr Unol Daleithiau o Boris Godunov gan Modest Mussorgsky gyda'r NBC Opera Theatre
Yn 1958 creodd rôl y Doctor yn Vanessa gan Phillip Barber.
Derbyniodd Tozzi dair Gwobr Grammy:
- Ym 1960, Gwobr Grammy am y Perfformiad Clasurol Gorau, Operatig neu Gorawl ar gyfer Le nozze di Figaro gyda Erich Leinsdorf;
- Ym 1961 y Wobr Grammy am Recordiad Opera Gorau ar gyfer Turandot Puccini, gydag Erich Leinsdorf;
- Ym 1963 y Wobr Grammy am Recordio Opera Gorau ar gyfer recordiad Georg Solti o Aida Verdi (gyda Leontyne Price a Jon Vickers).
Canodd Tozzi hefyd ran y bas wrth recordio fersiwn Syr Thomas Beecham o Feseia Handel ar gyfer RCA Victor ym 1959.
Ar ôl dybio rhannau canu ar gyfer cymeriad Emile de Becque (a actiwyd gan Rossano Brazzi) yn fersiwn ffilm South Pacific ym 1958, treuliodd Tozzi flynyddoedd lawer yn chwarae rôl de Becque ei hun mewn amryw o ddiwygiadau a theithiau o'r sioe gerdd, gan gynnwys yng Nghanolfan Lincoln ar ddiwedd y 1960au. Wrth ddychwelyd i deledu cenedlaethol byw ym 1964, cydweithiodd â'r arweinydd Alfredo Antonini yn rôl Herod yn addasiad CBS Television o oratorio L'enfance du Christ gan Hector Berlioz. Ym 1980, enillodd Tozzi enwebiad Gwobr Tony ar gyfer yr Actor Arweiniol Gorau mewn Sioe Gerdd am ei waith yn rhan Tony yn y sioe The Most Happy Fella.[4]
Bu'n athro yn Ysgol Juilliard, Prifysgol Brigham Young a Phrifysgol Indiana. Gwasanaethodd fel Athro Llais Nodedig yn Ysgol Cerddoriaeth Jacobs, Prifysgol Indiana o 1991 hyd iddo ymddeol yn 2006.
Cyhoeddodd Tozzi nofel ym 1997, The Golem of the Golden West
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Tozzi yn briod ddwywaith. Priododd Catherine Dieringer gyntaf, a fu farw o'i flaen; ym 1967 priododd Monte Amundsen, canwr, bu iddynt fab a merch.[5]
Bu farw Tozzi ar 30 Mai 2011, yn Bloomington, Indiana o drawiad ar y galon yn 88 oed. Cafodd ei oroesi gan Amundsen, eu plant, Eric Tozzi a Jennifer Tozzi Hauser, a thri o wyrion. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Clear Creek Cemetery, Clear Creek, Monroe County, Indiana, UDA.[6]
Ffilmograffi rhannol
[golygu | golygu cod]- South Pacific (1958) – Emile De Becque (llais canu)
- Die Meistersinger von Nürnberg (1971) – Hans Sachs
- Shamus (1973) – Dottore
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bernheimer, M. (2002, January 01). Tozzi, Giorgio. Grove Music Online adalwyd 2 Mai, 2019
- ↑ Telegraph (DU) 14 Mehefin 2011 MUSIC OBITUARIES -Giorgio Tozzi adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Gramaphone Giorgio Tozzi adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Washington Post Giorgio Tozzi, operatic bass who dabbled in musical theater, dies at 88 adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ bywgraffiad ar All Music adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Find a Grave Giorgio Tozzi adalwyd 2 Mai 2019