Golwg (cylchgrawn)
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Prif bwnc | cylchgrawn newyddion |
Gwefan | http://www.golwg360.com/ |
Cylchgrawn wythnosol Cymraeg ydy Golwg, a sefydlwyd yn 1988. Mae'n cynnwys newyddion cyfoes sy'n berthnasol i Gymru ac mae ganddo'r cylchrediad mwyaf o'r cylchgronau Cymraeg. Un o sylfaenwyr y cylchgrawn, a golygydd gyfarwyddwr y cwmni, yw Dylan Iorwerth. Y golygydd yw Siân Sutton, a'r dirprwy olygydd yw Barry Thomas.
Yn ôl Arolwg Tony Bianchi o'r wasg brintiedig cyfrwng Gymraeg (Ionawr, 2008)[dolen farw] gwerthir c2,980 o gopïau bob wythnos. Tanysgrifiadau yw 46.3% o’r gwerthiannau gyda hysbysebion yn 52.9% o'r incwm blynyddol.
Mae Golwg yn derbyn grant blynyddol o £75,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru tuag at ei dudalennau diwylliant a chelfyddydau. Daw gweddill ei incwm o werthiant, hysbysebu a gweithgareddau masnachol eraill gan Golwg Cyf.
Mae cwmni Golwg Cyf hefyd yn cyhoeddi cylchgronau eraill megis Lingo Newydd ar gyfer dysgwyr, ac WCW a'i ffrindiau ar gyfer plant.
Golwg360 yw gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg.