Goema
Math | offeryn cerdd |
---|
Mae Goema, (ysgrifennir hefyd fel Ghomma a Ghoema; ynganer [ˈɡuma]) yn fath o ddrwm llaw a ddefnyddiwyd gan gerddorion y Cape Minstrel Carnival a cherddoriaeth Cape Jazz yn Kaapstad, De Affrica. Mae'r gair hefyd wedi dod i ddisgrifio genre o gerddoriaeth sy'n un o dylanwadu ar Cape Jazz.[1]
Ymysg y cerddorion Goema nodweddiadol mae Mac McKenzie, Hilton Schilder, Errol Dyers a Alex van Heerden.[2]
Y Drwm
[golygu | golygu cod]Mae'r drwm ghoema gydag agoriad ar y gwaelod. Credir iddo gyrraedd De Affrica gan gaethwasion Malaya o ynysoedd y Dwyrain Pell oedd yn berchen i'r Iseldiroedd a chwmni Vereenigde Oost-Indische Compagnie a wladychodd tiriogaeth De Affrica yn yr 18g. Roedd y drymiau a ddefnyddiwyd gan y brodorion San wedi eu cau ar y gwaelod. Defnyddiwyd unrhyw ddefnydd siap tiwb i wneud y drymiau syml ghoema yn wreiddiol.
Clywir y gerddoriaeth ar y cyfryngau a chysylltir hi â Gŵyl yr Ail Dydd Calan (Tweede Nuwe jaar) a dathliadau y Kaapse Klopse.
Arddull
[golygu | golygu cod]Mae arddull ghoema yn hybrid sy'n cynnwys elfennau o wahanol ddiwylliannau a welir yn Kaapstad gan gynnwys; dawnsiau gwerin Afrikaaner, tonau emynol a harmoniau wedi eu cyfeilio i sain banjo ffyrnig a offerynnau chwyth cyrn. Clywir hyn mewn caneuon megis Daar kom die Alibama [3] a sawl un arall [4] a Ceir 'ebychiad' syncopatig nodweddiadol yn y gerddoriaeth sy'n rhoi toriad yn y curiad a rhoi ymdeimlad o symud neu hwgwd.[5] Cysylltir y gerddoriaeth gyda chymuned y Kaapse Kleurling ('Cape Coloured') Mwslemaidd a Christonogol Tref y Penrhyn.
Mae'r gerddoriaeth hefyd wedi dylanwadu ar arddull jazz De Affrica fel clywir mewn canueon megis Goema Goema gan Mac McKenzie & the Goema Captains of Cape Town.[6]
Gwobrau Ghoema
[golygu | golygu cod]Mae'r term hefyd wedi ei mabwysiadu ar gyfer y Ghoema-musiektoekennings (Gwobrau Cerddoriaeth Ghoma)[7] sef y prif wobr ar gyfer cerddoriaeth a cherddorion yn yr iaith Afrikaans, beth bynnag eu harddull o gerddoriaeth. Sefydlwyd y gwobrau yn 2012 a darlledir ar wasanaeth deledu lloeren Afrikaans, KykeNet.[8]
Cerddoriaeth De Affrica, Gweler Hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Haslop, Richard. "Goema Music Of South Africa". Perfect Sound Forever. Cyrchwyd 13 April 2017.
- ↑ Richmond, Simon (2009). Cape Town. Footscray, Vic. London: Lonely Planet. ISBN 9781741048919.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=lQUJG_McYxg
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=iFbNAeVFneo
- ↑ https://www.furious.com/perfect/goema.html
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=HMkv5k865hQ
- ↑ http://ghoema.co.za/
- ↑ https://kyknet.dstv.com/South/home