Cân
Gwedd
Cyfansoddiad cerddorol i'r llais yw cân (lluosog: caneuon), sydd yn aml yn cynnwys penillion ac sydd ag offeryn neu offerynnau yn rhan cefndirol ohono. Fel arfer, mae'r penillion ar fydr ac odl ond weithiau, yn enwedig mewn opera ceir caneuon ar y wers rydd.
Gelwir y person sy'n canu'r gân yn unawdydd, a gellir wrth fwy nag un: deuawd pan ddaw daw berson at ei gilydd i ganu'r un gân, triawd gyda thri, pedwarawd gyda phedwar ayb. Mewn cân gorawl, ceir mwy na tua dwsin.
Yr enw a roddir ar gân grefyddol yw emyn, er y ceir hefyd ganu salmau a chaneon plygain yn yr eglwys.