C.P.D. Bwrdeistref Conwy
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | (The Tangerines) | ||
Sefydlwyd | 1977 | ||
Maes | Y Morfa | ||
Rheolwr | Gareth Thomas | ||
Cynghrair | Cynghrair Undebol | ||
|
Clwb pêl-droed o dref Conwy yw C.P.D. Bwrdeistref Conwy (Saesneg Conwy Borough F.C.). Mae'r clwb yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ffurfiwyd y clwb ym 1977 wrth i glybiau Tref Conwy a Conwy Royal British Legion uno o dan yr enw Conwy United[1].
Pêl-droed yng Nghonwy
[golygu | golygu cod]Y dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Mae clybiau pêl-droed wedi bodoli yng Nghonwy ers dechrau'r 20g gyda chlwb Conwy FC yn aelodau o Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru ym 1902-03[2] ac yn cystadlu yng Nghwpan Cymru ym 1909-10[3].
Borough Unted
[golygu | golygu cod]Y clwb enwocaf o'r ardal oedd Borough United ffurfiwyd ym 1954 wrth i glybiau Conwy Borough a Chyffordd Llandudno uno. Llwyddodd Borough United i ennill Cwpan Cymru ym 1963 a dod y clwb cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Ewrop wrth drechu Sliema Wanderers o Malta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop 1963-64[4][5]
Hanes Bwrdeistref Conwy
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd Conwy United ym 1977 wrth i glybiau Tref Conwy a Conwy Royal British Legion uno [1] ac ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Gogledd) ar gyfer tymor 1977-78[6]. Ffurfiwyd Cynghrair Undebol y Gogledd ym 1984 gyda Conwy yn ennill y Gynghrair yn ei thymor agoriadol ac eto ym 1985-86[7][8] ac ym 1990 daeth y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[9].
Ym 1992 ffurfiwyd Cynghrair Cenedlaethol Cymru gyda Conwy yn cael gwahoddiad i fod yn un o'r aelodau gwreiddiol ac ym 1995-96 gorffennodd y clwb yn y trydydd safle a sicrhau eu lle yn Nghwpan Intertoto 1996[10] le cafwyd gemau yn erbyn Charleroi o Wlad Belg, SV Ried o Awstria, Zaglebie Lubin o Wlad Pwyl a Silkeborg o Ddenmarc.
Yn 2000 cwympodd y clwb allan o Uwch Gynghrair Cymru ac oherwydd problemau ariannol penderfynodd y clwb ddisgyn i Gynghrair Undebol y Gogledd yn hytrach na'r Gynghrair Undebol[1][11].
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Canlyniad |
---|---|---|---|---|
1996 | Tlws Intertoto | Grŵp 4 | Charleroi (c) | 0-0 |
Zaglebie (o) | 1-2 | |||
SV Ried (c) | 1-2 | |||
Silkeborg (o) | 1-2 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Conwy Borough FC History". Conwy Borough FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-14. Cyrchwyd 2018-07-24.
- ↑ "North Wales Coast League 1902-03". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Welsh Cup 1909-10". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Clwb y Cyffordd yn gobeithio efelychu Borough". Sgorio.
- ↑ "Cysylltiad Cymru a Malta: atgofion Borough United". Sgorio.
- ↑ "Welsh League (North) 1977-78". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Welsh Alliance 1984-85". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Welsh Alliance 1985-86". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Cymru Alliance: History". welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "Uefa Intertoto Cup 1996: Group 4". rsssf.com.
- ↑ "Welsh Premier League Table 1999-2000". welshsoccerarchive.co.uk.
Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |