Alopecia areata
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | alopecia, clefyd hunanimíwn, autoimmune skin disease |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae clefyd lledfoelni neu Alopecia areata (Saesneg) yn gyflwr lle collir gwallt mewn rhai mannau, neu ym mhob rhan o'r corff. Yn aml iawn achosa ofodau moel ar greon y pen, ac y mae'r rhain fel arfer oddeutu maint darn arian. Gall straen seicolegol achosi'r cyflwr. Fel arall, mae dioddefwyr yn iach. Mewn rhai achosion collir gwallt croen y pen i gyd ynghyd â holl wallt y corff, a gall y colledion hynny fod yn barhaol.
Credir bod clefyd lledfoelni yn afiechyd hunanimíwn. Mae ffactorau risg yn cynnwys hanes teuluol o'r cyflwr. Ymhlith efeilliaid unwy, os effeithir un gan y cyflwr, mae'r naill 50% yn debygol o'i heffeithio hefyd. Ym mecanwaith sylfaenol yr afiechyd y mae'r corff yn methu a chydnabod ei gelloedd ei hun ac o ganlyniad cyflwyna broses imiwnedd sy'n dinistrio ffoligl gwallt..[1]
Ni cheir triniaeth effeithiol sy'n gwella'r cyflwr. Gellir ymdrechu i gyflymu'r broses ail-dyfu drwy gynnal rhaglen o bigiadau cortison. Caiff dioddefwyr eu hargymell i ddefnyddio eli haul, gorchuddion ar gyfer y pen er mwyn ei warchod rhag yr oerfel a'r haul, ynghyd â gwisgo sbectol, os effeithir blew'r amrannau. Mewn rhai achosion, y mae'r gwallt yn ail tyfu ac nid yw'r cyflwr yn dychwelyd. Ceir enghreifftiau eraill lle nad yw'r gwallt colledig yn ymddangos dros lawer o flynyddoedd.
Dioddefa oddeutu 2% o boblogaeth yr Unol Daleithiau'r cyflwr. Fel arfer y mae symptomau'n ymddangos yn ystod cyfnod plentyndod. Mae'r clefyd yr un mor debygol ymysg dynion a menywod. Ni effeithir amser byw unigolyn gan yr afiechyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Liaison, Ray Fleming, Office of Communications and Public (May 2016). "Questions and Answers About Alopecia Areata". NIAMS (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2017. Cyrchwyd 10 July 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)