[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/Neidio i'r cynnwys

Clytwaith

Oddi ar Wicipedia
Clytwaith
Mathpiecing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Esiampl o glytwaith gyda siapiau â ochrau sydd ddim yn syth

Math o wniadwaith yw clytwaith, lle mae darnau o ddefnydd yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu cynllun mwy. Mae'r cynllun fel arfer yn seiliedig ar batrwm wedi ei greu o amryw o liwiau, ac yn cael ei ail-adrodd. Caiff y siapiau sy'n creu'r patrwm eu mesur a'u torri yn ofalus. Yn draddodiadol ac fel rheol, mae'r siapiau yn rai geometrig ag ochrau syth, sy'n eu gwneud yn haws i'w clytio at ei gilydd, ond mae'r grefft wedi datblygu yn sylweddol erbyn hyn ac mae clytwaith yn aml yn cael ei ddefnyddio i greu delweddau cymhleth. Mae uno gofalus yn creu clytwaith sy'n gorwedd yn berffaith fflat, heb rychau.

Pan ddefnyddwyd clytwaith er mwyn creu cwilt, mae'r clytwaith yn ffurfio haenen uchaf y cwilt gyda wadin neu flanced gwlan yn y canol, a chefnyn plaen yn ffurfio'r haenen isaf. Er mwyn cadw'r wadin rhag symud oddi fewn y cwilt, caiff ei gwiltio gyda llaw, neu beiriant gwnïo i greu pwyth rhedegog sy'n clymu'r haenau at ei gilydd. Gall y pwthau redeg o amgylch ymyl y darnau sy'n creu'r patrwm, gall fod yn batrwm ar hap, neu gall fod yn batrwm â strwythr cymhleth sy'n cyferbynnu gyda phatrwm y clytwaith.

Yn y gorffennol bu cwiltio yn cael ei gwblhau gyda llaw gan grŵp o bobl o amgylch ffram a oedd yn dal y cwilt yn dyn.[1] Weithiau, yn hytrach na chwiltio, gall y haenau cael eu clymu at ei gilydd gyda phwyth sengl o edau byr a gaiff ei glymu, a rhoddir cylymau ar draws y cwilt mewn patrwm cyson.

Mae tri modd traddodiadol o ffurfio strwythr clytwaith, sef 1) bloc 2) cyflawn 3) clytio stribedi. Mae nifer o batrymau traddodiadol yn berchen ar enwau penodol yn seiliedig ar y patrwm a greir gan y lliwiau a'r siapiau.

'Daeth Edrica Huws â gweledigaeth hollol newydd i glytwaith.'[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "hand quilting". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-29. Cyrchwyd 2009-08-26.
  2. http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/edrica_huws.shtml

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]