Caerau Gaer
Gwedd
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8125°N 4.6999°W |
Cod OS | SN13981610 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE176 |
Bryngaer yn Sir Benfro yw Caerau Gaer. Cyfeiriad OS: 139161. Fe'i lleolir ar gwr pentref Llanddewi Efelffre, hanner ffordd rhwng Arberth a'r Hendy-gwyn ar Daf yn ne'r sir. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn.
Adeiladwyd y gaer hon ar fraich o fryn isel. Heb fod nepell i ffwrdd ceir caer arall o'r un cyfnod, sef Llanddewi Gaer. Nid yw safle naturiol Caerau Gaer cyn gryfed fel amddiffynfa â'r gaer arall. Fe'i hamgylchynnir yn gyfangwbl gan glawdd a ffos a cheir olion o glawdd a ffos arall ar y gwddw o dir i'r gogledd-ddwyrain. Ceir y brif fynedfa i'r gaer ar yr ochr orllewinol ond ceir mynedfa arall ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a hon, fe gredir gan yr archaeolegwyr, oedd y fynedfa wreiddiol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 178.