3 Juno
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | asteroid |
---|---|
Màs | 28,200,000,000,000,000,000 cilogram |
Dyddiad darganfod | 1 Medi 1804 |
Rhagflaenwyd gan | 2 Pallas |
Olynwyd gan | 4 Vesta |
Echreiddiad orbital | 0.25621346370583 ±4.5e-09 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
3 Juno (symbol: ) yw'r trydydd asteroid i gael ei ddarganfod ac un o'r asteroidau mwyaf yn y prif wregys o asteroidau sy'n cylchdroi'r Haul. Dyma'r ail drymaf o'r asteroidau math S (S-type) a nodweddir gan eu natur creigiog. Cafodd ei ddarganfod ar 1 Medi, 1804 gan y seryddwr Almaenig Karl L. Harding ac fe'i enwir ar ôl y dduwies Rufeinig Juno.