[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Ystrad Meurig

pentref a chymuned yng Ngheredigion

Pentref bychan, cymuned a phlwyf uwchben Dyffryn Teifi yng Ngheredigion yw Ystrad Meurig (neu Ystradmeurig). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng Pontrhydfendigaid i'r dwyrain a Lledrod i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Ystrad Meurig
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth353, 368 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,703.63 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2928°N 3.8989°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000407 Edit this on Wikidata
Cod OSSN706675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Saif y pentref ger tro ar Afon Teifi filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger Cors Caron. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion castell Ystrad Meurig a godwyd gan Gilbert de Clare ym 1116. Llosgwyd y castell mwnt a beili hwnnw gan meibion Gruffudd ap Cynan yn 1137; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynol yn 1199.[1] Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.[2]

Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer fechan.

Ganwyd y bardd ac ysgolhaig Edward Richard yno ym mis Mawrth 1714. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o 1734 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion Lewis Morris, mab William Williams Pantycelyn ac Ieuan Fardd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ystrad Meurig (pob oed) (353)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ystrad Meurig) (181)
  
52.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ystrad Meurig) (202)
  
57.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Ystrad Meurig) (45)
  
28.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cestyll Ceredigion.
  2. "Ymchwil archaeolegol ar y safle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 2009-04-22.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Ffynonellau

golygu
  • Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Llanrwst, 1991)
  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)