Via Aemilia
Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Arimini (Rimini) a dinas Placentia (Piacenza) yng ngogledd yr Eidal yw'r Via Aemilia. Mae'n croesi rhanbarth modern Emilia-Romagna, sy'n cael ei enw o'r ffordd.
Math | ffordd filwrol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Marcus Aemilius Lepidus |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Eidal |
Mae'r ffordd yn barhad o'r via Flaminia, oedd yn arwain o ddinas Rhufain i Arimini. Roedd yn mynd heibio nifer o ddinasoedd pwysig, yn cynnwys Caesena (Cesena), Forum Cornelii (Imola), Bononia (Bologna), Mutina (Modena) a Parma.