[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Mae Tibet yn enw cyffredin ar dalaith hunanlywodraethol yng ngorllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina, a adwaenir yn swyddogol fel Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, a hefyd ar y wlad hanesyddol o'r un enw, oedd â ffiniau gwahanol. Y brifddinas yw Lhasa. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y wlad hanesyddol.

Tibet
Mathrhanbarth, highland, ardal ddiwylliannol, tiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,002,166 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Ymreolaethol Tibet Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,500,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4,380 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29.6°N 91.1°E Edit this on Wikidata
Map
Tibet, y dalaith hunanlywodraethol a'r ardal hanesyddol
Baner Tibet cyn 1950 a baner y llywodraeth alltud. Defnyddiwyd y fersiwn yma gyntaf gan y 13eg Dalai Lama yn 1912

Daearyddiaeth

golygu

Mae'r ardal yn fynyddig, ac yn cynnwys mynydd uchaf y byd, Mynydd Everest, ar y ffin â Nepal. Ond mae'n wlad o lwyfandiroedd uchel anferth hefyd, lled-anial, gyda nifer mawr o lynnoedd sy'n cynnwys llynnoedd sanctaidd fel Llyn Manasarovar a Llyn Rakshastal.

Mae hanes hir Tibet yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn gorwedd yng nghanol Asia.

Yn 1959 meddiannwyd Tibet gan China, a sefydlodd y 14eg Dalai Lama lywodraeth mewn alltudiaeth yn Dharamsala yng ngogledd India.

Israniadau hanesyddol

golygu

Rhennid teyrnas Tibet yn dair rhanbarth hanesyddol, sef:

O'r tair rhanbarth hyn dim ond Ü-Tsang a rhan o orllewin Kham sy'n cael eu cynnwys yn Rhanbarth Ymreolaethol Tibet. Mae Amdo wedi ei throi yn dalaith Qinghai.

Diwylliant

golygu

Bwdhaeth Tibet neu Fwdhaeth Dibetaidd yw'r enw a arferir am y gangen o Fwdhaeth a ddatblygodd i fod yn grefydd mwyafrif llethol y Tibetiaid. Yn ogystal ceir rhai pobl sy'n dal i ddilyn y grefydd Bön, cyn-Fwdhaidd, a cheir poblogaethau Mwslim mewn rhannau o'r wlad hefyd, yn enwedig yn y gogledd.

Tibeteg yw prif iaith yr ardal. Tafodiaith Lhasa (Ü-Tsang) yw'r lingua franca draddodiadol ac iaith llenyddiaeth Dibeteg.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato