Soar (Beibl)
Dinas y cyfeirir ati yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament yw Soar, hefyd Zoara.
Math | dinas hynafol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pentapolis |
Cyfesurynnau | 31.0469°N 35.5025°E |
Crybwyllir y ddinas yn hanes Lot, nai Abraham. Aeth Lot a'i wraig i drigo yn ninas Sodom. Datguddiwyd cymeriad "anfoesol" y ddinas iddo pan letyodd angylion a chafodd ei rybuddio i ddianc ohoni cyn iddi gael ei dinistrio gan Duw. Ffoes Lot i ddinas Soar ar ôl dinistr Sodom a Gomorra.
Oherwydd y syniad o ddinas noddfa, daeth yn enw cyffredin ar gapeli, a thrwy hyn yn enw ar nifer o bentrefi yng Nghymru - gweler Soar.