[go: up one dir, main page]
More Web Proxy on the site http://driver.im/

Bardd oedd Siôn Ceri, sef Siôn ab y Bedo ap Deio Fychan (bl. diwedd y 15g - 1540au), a gysylltir â chwmwd Ceri yn ardal Maldwyn, Powys.

Siôn Ceri
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1500 Edit this on Wikidata

Gwaith llenyddol

golygu

Ceir 58 o gerddi gan Siôn ar glawr, yn awdlau, cywyddau ac englynion. Cywyddau mawl a marwnadau i uchelwyr lleol tiriogaeth Powys Wenwynwyn yw trwch y cerddi hyn; ceir cerddi i noddwyr ym Meirionnydd, Ceredigion a'r gogledd-ddwyrain hefyd. Canai ar destunau crefyddol yn ogystal, e.e. cywydd i'r Grog yn Aberhonddu ar gais Rhys ap Morys o Aberbechan - a cheir tri chywydd serch hefyd.

Roedd Siôn Ceri yn ddisgybl barddol i'r bardd mawr Tudur Aled. Canodd farwnad iddo sy'n cyfeirio ato fel,

F'athro hoywdwf weithredoedd;
a'i air da ym erioed oedd.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwaith Siôn Ceri, gol. A. Cynfael Lake (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 1996)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwaith Siôn Ceri, cerdd 45.9-10.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.