Petrograd (nofel Gymraeg)
llyfr
Nofel hanesyddol gan Wiliam Owen Roberts yw Petrograd. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ninas St Petersburg, (a elwir yn Petrograd ar y pryd) ar ganol y 1910au. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Rhagfyr 2008 gan Gyhoeddiadau Barddas. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Wiliam Owen Roberts |
Cyhoeddwr | Cyhoeddiadau Barddas |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1903 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i oedolion |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781906396107 |
Disgrifiad
golyguY gyntaf mewn trioleg o nofelau gan Wiliam Owen Roberts. Nofel wedi ei lleoli yn Rwsia ac Ewrop yw Petrograd. Mae'r stori yn dechrau yn ystod haf 1916, ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau personol a gwleidyddol sydd yn gwyrdroi eu bywydau yn sgil y Chwyldro yn 1917.
Cymeriadau
golygu- Fyodor Mikhailovich Alexandrov - Dyn busnes a pherchennog ffatri arfau yn Petrograd oedd yn gwneud busnes da cyn y Chwyldro gan fod galw am nwyddau’r ffatri o ganlyniad i’r Rhyfel. Gŵr Inessa a thad Alyosha a Georgik.
- Inessa - Gwraig Fyodor a Mam Alyosha a Georgik.
- Alyosha - Mab hynaf Fyodor ac Inessa, a brawd Georgik. Yn ei arddegau ac yn cael addysg breifat o’i gartref gan Mademoiselle Babin a Herr Professor K.K.
- Larissa ac Margarita - Cefndryd Alyosha sy’n blant i Ella a Kozma, brawd Fyodor.
- Anna a Vasillii - Rhieni Inessa a rhieni-yng-nghyfraith Fyodor.
- Kozma - Brawd Fyodor sy’n Gadfridog ym Myddin Rwsia, gŵr Ella.
- Ella - Gwraig Kozma a Mam Larissa a Margarita.
- Mademoiselle Babin - Ffrances sy’n diwtor preifat i Alyosha, Larissa a Margarita.
- Herr Professor K.K. - Almaenwr sy’n diwtor preifat i Alyosha, Larissa a Margarita. Bu’n rhaid iddo ffoi o Petrograd, ychydig cyn y Chwyldro, oherwydd yr ymdeimlad wrth-Almaenaidd oedd ar gynnydd oherwydd y Rhyfel, ond nid cyn iddo ddatblygu perthynas gydag athrawes biano Alyosha.
- Dunia - Mam-faeth Georgik.
- Andrei Petrovich Vengerov - Prif Reolwr-gyfarwyddwr Banc Masnachol Azor-Don. Banciwr Fyodor a’i gwmni.
- Oxana - Cogyddes a Prif Forwyn Fyodor ac Inessa.
- Ivan Kirilich - Chauffeur Fyodor ac Inessa, ymunodd â’r Bolsieficiaid a maes o law ail-gyfarfu Alyosha ag ef yn swyddfa’r Comisâr yn Kiev.
- Oleg - Morwr sy’n frawd i Oxana.
- Aisha - Merch amddifad a fagwyd gan leianod, daeth yn forwyn i Fyodor ac Inessa ac roedd yn gariad i Alyosha am gyfnod cyn gadael ei gwaith gyda’r teulu a dilyn perthynas gyda Oleg.
- Artyom - Brawd Inessa a weithiai fel cynrychiolydd yng Ngorllewin Ewrop i gwmni arfau ei frawd-yng-nghyfraith Fyodor. Yn ystod y rhyfel daeth yn fasnachwr arfau effeithiol ond anghyfreithlon. Yn byw ym Mharis ond yn ymweld â Petrograd yn rheolaidd.
- Lika - Morwyn i Fyodor ac Inessa.
- Stanislav Markovich Feldman - Dramodydd o Folsiefic dreuliodd wyth mlynedd yn alltud o Rwsia, ym Mharis yn bennaf, cyn dychwelyd ar ôl y Chwyldro i Rwsia ac i Kiev yn benodol. Dadrithiodd maes o law gyda bywyd dan y Bolsieficiaid. Cariad Tamara ac Rozaliya a thad Irina.
- Kataya Schmit - Cyn-gariad Stanislav, a Mam eu plentyn Irina.
- Maxim Bogdanov - gŵr Katava.
- Rozaliya Sergeyev - Un o gariadon Stanislav.
- Yakov Peshkov - Swyddog Milwrol ac un o gariadon Mademoiselle Babin.
- Leo - Tramp dreuliodd gyfnod yn byw gyda Alyosha yn y dacha pan ddarganfu Alyosha ei hun yn amddifad wedi ymadawiad Mademoiselle Babin a Yakov. Er yn feddwyn roedd yn ddyn crefyddol a defosiynol a ddywedodd wrth Alyosha untro: “Peth anffodus ydi fod natur dyn yn yr oes sydd ohoni yn mynnu eglurhad labordy am y byd a’r bydysawd, yn lle derbyn bodolaeth dirgelion a dirgelwch.”
- Mishka, Masha a Boris - Plant amddifad ddaeth yn ffrindiau i Alyosha pan oedd ar ffo.
- Tamara a Yury - Myfyrwyr o Academi Berfformio Petrograd. Roedd Tamara yn wreiddiol o Kiev a dyna le wnaethant fynd ar ôl y Chwyldro lle wnaethant gyfarfod Stanislav. Yna bu i'r tri ffoi ymhellach i Sevastopol.
Gwobrau
golyguGweler hefyd
golygu- Paris - Ail nofel y trioleg a gyhoeddwyd yn 2013
Dolen allanol
golygu- Gwales
- Adolygiad BBC Cymru
- O Betrograd i Baris Rhaglen Pethe, gwefan S4C[dolen farw]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013