Notitia Dignitatum
Dogfen sy'n dyddio o flynyddoedd olaf yr Ymerodraeth Rufeinig yw'r Notitia Dignitatum. Mae'n disgrifio strwythur rheoli yr ymerodraeth, yn sifil a milwrol, yn y cyfnod yma. Credir fod y wybodaeth am y rhan orllewinnol o'r ymerodraeth yn cyfeirio at y sefyllfa tua 420, tra mae'r wybodaeth am y rhan ddwyreiniol yn cyfeirio at tua 400.
Daw'r teitl a roddir i'r ddogfen o'i brawddeg gyntaf: Notitia dignitatum omnium tam civilium quam militarium utriusque imperii occidentis orientisque. ("Rhestr o'r swyddogion, silil a milwrol, yn y ddwy ymerodraeth, y gorllewin a'r dwyrain").
Ceir nifer o gopiau o'r ddogfen, yn dyddio o'r 14eg a'r 15g, yn cynnwys fersiwn gyda lluniau lliw o 1542. Credir ei bod i gyd yn gopiau o lawysgrif o'r 11g.