Nant Gwrtheyrn
Cwm ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn yw Nant Gwrtheyrn, a leolir i'r gogledd-orllewin o bentref Llithfaen, Gwynedd, wrth droed Yr Eifl. Yn hen bentref chwarelyddol Porth y Nant yma, sefydlwyd Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn; fel rheol cyfeirir at y Ganolfan fel "Nant Gwrtheyrn". Mae'r Nant yn cynnig cyrsiau trochi iaith i bobl ddysgu Cymraeg yn ddwys ar y safle. Ceir hefyd gwasanaethau megis cynnal cynadleddau neu briodasau yn yr hen bentref.
Math | dinas goll |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9756°N 4.4586°W |
Oriel
golygu-
Yr olygfa o'r Ganolfan iaith
-
Rhes o dai yng nghanol y pentref.
-
Clawr llyfr gan Carl Clowes
-
Nant Gwrtheyrn 1962