Mynyddoedd Sayan
Cadwyn o fynyddoedd yng nghanol Asia yw Mynyddoedd Sayan (Rwseg: Саяны; Mongoleg: Соёоны нуруу) sy'n gorwedd rhwng gogledd-orllewin Mongolia a de Siberia, Rwsia.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 3,492 metr, 1,087 metr |
Cyfesurynnau | 53.2519°N 94.9744°E, 52.75°N 96°E |
Fe'u rhennir yn ddwy ran. Mae'r mynyddoedd Sayan Dwyreiniol yn ymestyn am 1,000 km (621 milltir) o Afon Yenisei (92° Dw) i ben de-orllewinol Llyn Baikal yn Oblast Irkutsk (106° Dw). Mae'r Sayan Gorllewinol yn ffurfio estyniad i'r dwyrain o'r Mynyddoedd Altai, gan ymestyn am 500 km (311 milltir) o 89° Dw i ganol y Sayan Dwyreiniol at 96° Dw.
Mae'r mynyddoedd uchel a'r llynnoedd niferus a geir i'r de o weriniaeth Tuva yn darddle i'r llednentydd niferus sy'n ymuno'n is i lawr ar wastadedd Siberia i ffurfio Afon Yenisei, un o'r afonydd mwyaf yn Rwsia, sy'n llifo i'r gogledd am 2,000 km i aberu yng Nghefnfor yr Arctig.
Copa uchaf Mynyddoedd Sayan yw Monkh Saridag (3,492 m - 11,457 tr).
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Lluniau o'r mynyddoedd